Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddelod

gwyddelod

Y Gwyddelod a fu'n byw yn yr ardal tuag amser Cunedda a'u cododd uwchben eu meirw.

Roeddwn i yn falch tu hwnt, falle am fy mod i yn gallu teimlo rhyw gysylltiad neu frawdgarwch gyda'r Gwyddelod yn fwy na'r gweddill.

Cafwyd tywydd braf a bob dydd buont yn cerdded ychydig filltiroedd allan i'r wlad gan alw mewn tafarndai gwledig am luniaeth a chael croeso cynnes gan y Gwyddelod ar ôl pwysleisio nad Saeson mohonynt.

Tua chanol y bumed ganrif o oed Crist, daeth ef a byddin i waredu Cymru rhag y Gwyddelod.

Mae'r Gwyddelod yn parhau ar frig y grwp.

Yn y gêm honno yn erbyn y Gwyddelod gyda llaw y gwnaeth Ian Rush ei ymddangosiad llawn cynta i Gymru, ar ôl ennill ei gap cynta fel eilydd ddeuddydd ynghynt yn yr Alban.

'roedd sylwebyddion y cyfnod yn ymwybodol o ymddygiad anwaraidd y Gwyddelod.

Pan ddaeth Y Cymry, diolch i ysgolion Griffith Jones, yn bobl lythrennog, yr oedd y Gwyddelod, fel y Llydawyr a'r Sgotiaid Gaeleg, yn anllythrennog; yng Nghernyw ac Ynys Manaw yr oedd yr ieithoedd brodorol wedi marw neu ar farw.

Wedyn, ymhen amser, daeth y Gwyddelod i ddymuno meddiannu'r wlad ac fe gartrefodd llawer ohonynt yn y gorllewin.

Fel arfer, roedd y Gwyddelod dipyn gwell na ni ac nid enillais yr un gêm erioed yn Nulyn.

Gwelodd yn dda i ffonio acw wedi buddugoliaeth Cymru dros y Gwyddelod.

Byddai'n fwy rhesymol a chyfiawn iddynt ladd y Saeson na lladd yr Almaenwyr, fel y gwnâi'r Gwyddelod.

Fel y garafan ben bore, y mae dicter yn dal i fudlosgi ym mynwes rhai o'r Gwyddelod di-aelwyd hyn.

'Tafarn yn llawn Gwyddelod ac alcs yn dathlu nos Wenar arall a ninna'n dadla ar gownt teledu o bob dim.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Dengys yr arysgrifen bod y Gwyddelod hyn yn Gristnogion.

Pan sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru ym Mhwllheli ym 1925 symbylwyd ei sefydlwyr a'i harweinwyr gan safiad y Gwyddelod ym 1916.

Ond 'Nid Gwyddelod mohonom' meddai cylchgrawn y bobl oedd piau'r amddiffyn.

Ef, wrth fynd â mi o gwmpas y wlad i weld hen olion Rhufeinig a chromlechau a chutiau Gwyddelod a phethau felly, a'm symbylodd i brynu llyfrau ar bynciau hynafiaethol Cymreig.

Ond ni chafodd y Gwyddelod eu concro'n llwyr oherwydd pan aeth Dewi Sant (ac fe ddywed traddodiad ei fod ef yn ddisgynnydd i Geredig) i deithio yn Nyfed gwelodd fod elfen Wyddelig amlwg yno, yn union fel yr oedd yng Ngogledd Cymru pan ddaeth Cunedda yno ganrif ynghynt.

Dengys darlun carreg Rhuddlan sydd ar y map yr hiciau a dorrai'r Gwyddelod ar ochrau'r meini, dyma'u dull hwy o ysgrifennu.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.

Y genedl arall oedd yr Eidalwyr, yr honnai eu harweinydd mawr Mazzini nad oedd y Gwyddelod yn genedl yng ngwir ystyr y gair.