Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddem

gwyddem

Gwyddem hefyd fod y Nipon yn elynion i Gristnogaeth, ac mai eu harfer gyda drwgweithredwyr oedd eu diberfeddu.

Ond gwyddem un peth - 'Roedd Chernobyl heb fod yn bell iawn o'r ffin â Slovakia, ac 'roeddem ni yn bwriadu teithio i gyfeiriad y cyfan.

Putain oedd; gwyddem hynny ar unwaith.

Gwyddem mor bwysig i'n hiechyd ydoedd moethau anfynych o'r fath, gan fod bron bob un ohonom bellach yn dioddef o ddiffyg maeth.

Yn awr ac eilwaith taflem lygad i weld a oedd Gwep Babi o gwmpas ond nid oedd yn y golwg yn unman, er y gwyddem o brofiad nad oedd ymhell iawn ychwaith.

Hyd y gwyddem nid oedd y Cymry wedi arfer ymgyfarfod, ac ychydig iawn o drafferth oedd neb yn gymeryd i ddangos mai Cymro oedd.

Gwyddem y caem bymtheng munud gwefreiddiol, ond ni wyddem yn union faint mor wefreiddiol, chwaith .

Gwyddem fod gan Mrs Davies barch mawr tuag at ei chapel a gwnai unrhyw beth i hyrwyddo'r Achos.

Gwyddem am ei thaith i'r Andes, ac am y storm ar y mor, a theimlem fod rhyw ogoniant tarawiadol o'i chwmpas!

Fy hoff stori i - am reswm amlwg iawn - yw honno amdano yn darlithio un noson waith mewn festri capel ym Mhenrhyndeudraeth pan ddaeth gwraig gecrus braidd o'r enw Mrs R____, y gwyddem amdani er dyddiau sefydlu pwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, i mewn yn hwyr.

Ar un adeg, os canai'r teleffon yn ein tŷ ni rhwng chwech a saith ar nos Sadwrn, gwyddem mai hi a oedd yn ffonio, a gwyddem beth fyddai'i neges.

Gwyddem yn union ble'r oedd.