Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddoch

gwyddoch

Fel y gwyddoch, mae'n debyg, y mae yna saith canrif ers i'r frenhiniaeth Seisnig sicrhau rheolaeth ar Gymru trwy rym arfau.

Wn i ddim os gwyddoch chi am Stad Bryn Glas o gwbwl ond -(Torri ar ei thraws ei hun) Mae'n ddrwg gen i, rw'i'n crwydro unwaith eto.

Gwyddoch o'r gorau fod cariad y bardd mor fyw â dyn-hel-y-dreth a bod y llabwst yn gwybod hynny'n burion.

Roedd hyn ddeng mlynedd a mwy, mae'n debyg, cyn Y Cyhoeddiad, ond dyw hi ddim yn hawdd mesur amser yn N'Og, fel y gwyddoch.

Y mae'r diwylliant Cymreig sydd, i raddau helaeth, yn un â'r iaith Gymraeg, mewn perygl einioes, fel y gwyddoch.

Rydym eisiau gwybod suth fath o broblemau sy'n codi, ac ymhle, felly os gwyddoch am unrhyw weithgaredd fel hyn yn eich ardal, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Gwyddoch beth rwy'n feddwl, mae'n siŵr, pan fo'r lloer a'r sêr yn ymddangos mor agos atom nes y gallwn eu cyffwrdd, bron.

Mwy trist na thristwch yn fy marn i yw colli cyswllt a iaith y gwyddoch mai hi yw eich priod iaith.

Mae'n siŵr y gwyddoch chi, fel finna, am rai nad ydyn nhw byth yn chwerthin.

Fel y gwyddoch mi gymerais arnaf mai adarydd oeddwn i, er mwyn i bobol arfer fy ngweld yn crwydro o gwmpas ar fy mhen fy hun.

Felly, os y gwyddoch chi am Gymry sydd â bywydau neu storiau difyr i'w dweud yn lle bynnag yn y byd, d'wedwch Hywel amdanyn nhw.

'Sut gwyddoch chi hynny?' gofynnais gan ryw hanner chwerthin.

Sut y gwyddoch chi?

barn neu er mwyn tynnu'n sylw at straeon diddorol y gwyddoch amdanynt.

Fel y gwyddoch, mae amryw o dai bach bellach yn cael eu paentio â gwrth-graffiti.

Mi ddes i yma, fel y gwyddoch chi bellach, i gadw llygad ar Twm Dafis ac i geisio holi'n ddistaw bach ymhlith y trigolion a oedden nhw wedi sylwi ar wynebau dieithr hyd y fan yma yn ddiweddar.