Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.
Ie, ie, dewis ei ffeithiau, dewis ei lluniau, dewis ei phrofiadau y mae hi fel pob llenor ni fynnir ac ni ellir gwadu hynny Ond yr oedd hi heb os yn llenor gwyddonaidd iawn, yn llenor a gadwai at galendr o ddigwyddiadau y gallem, pe mynnem, eu gwirio'n hanesyddol.