Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddonwyr

gwyddonwyr

Gwyddys iddo ef ei hun gael addysg bur dda, ei fod yn gyfarwydd â llyfrau, ac yn hyddysg yn niwinyddiaeth y Piwritaniaid mawr fel yng nghanlyruadau gwaith y gwyddonwyr mawr.

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.

Golygodd y datblygiad gydweithio clos rhwng gwyddonwyr o gefndiroedd tra gwahanol yn ffisegwyr, cemegwyr, metelegwyr, a pheirianwyr electroneg, ac mae'r cydweithio hwn yn parhau i fod yn un o nodweddion y maes hyd heddiw.

Ar ôl cynnal profion ar ddwy fil o bobol, mae'r gwyddonwyr yn dweud fod gan bobol sy'n yfed yn gymhedrol IQ's uwch na'r llwyrymwrthodwyr.

Mae gwyddonwyr yn wastad yn cadw cofnod o'r cynlluniau ymchwil am y rheswm hwn, felly beth am i chwi wneud yr un peth?

Y pendilio rhwng y ddau begwn - Natur a Phersonoliaeth - sy'n esbonio'r cyfnewidiadau yn ymagwedd y cyhoedd at wyddoniaeth a gwyddonwyr.

Ar yr un safle â Pedro, roedd gwyddonwyr yn cario brics a'u rhoi yn eu lle.

Nid yw gwyddonwyr, gwleidyddwyr, a phobl yn gyffredin ond yn dechrau sylweddoli y pwysigrwydd ynghlwm â deall y prosesau sy'n digwydd yn ein moroedd, a'u heffeithiau ar weddill yr amgylchfyd.

Mae'n dathlu campau'r gwyddonwyr ymhob maes, hyd yn oed yr ymdrech gyntaf i greu bywyd dynol mewn testiwb.

Mae rhai gwyddonwyr, er hynny, wedi cyfeirio at y posibilrwydd y gall rhyw elfen arall, megis silicon, gyflawni yr un swyddogaeth a charbon.

Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dadansoddi gwreiddiau a dail betys a chael ynddynt rai sylweddau anhysbys ynghyd â ffibr, haearn, caliwm, potasiwm, y fitaminau A, C a nifer o'r cymhlyg B, gyda'r dail yn arbennig o gyfoethog mewn haearn a fitamin A.

Gwyddonwyr yn poeni fod llosgi tanwydd ffosil yn peri i'r tymheredd godi.

Ond 'dŷch chi ddim yn iawn yn dweud 'holl gyfrinachau'r Orsaf Arbrofi', oherwydd 'doedd Dr Hort ddim yn un o'n gwyddonwyr blaena' ni.

Mae gwyddonwyr modern wedi datrys dirgelwch y dynion a droes yn fleiddiaid - caed yr ateb mewn rhywbeth mor ddiniwed â gwenith, haidd a barlys.

Cyrhaeddodd yr erydiad hwn benllanw - neu isafbwynt! - newydd yr wythnos diwethaf pan gyhoeddodd gwyddonwyr nad yw moron yn fwyd llesol i gwningod.

Mae gwyddonwyr yn Ffrainc ac yn Helsinki yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd.

Mae'r rhai hynny sy'n beirniadu gwyddonwyr yn ddigon parod i fanteisio ar y moethau a'r gwasanaethau a ddaeth i'w rhan o'r cyfeiriad hwn.

Drwy archwilio'r ffyrdd y bydd dŵr yn cyrraedd sianel yr afon, gall gwyddonwyr (a elwir yn hydrolegwyr) ei gwenud hi'n haws i bobl fyw mewn cytgord ag afon.

Mae hi hefyd yn astudio natur gwaelod y môr drwy gasglu samplau o waddod yn barod i'w ddadansoddi gan y gwyddonwyr ar ôl dychwelyd i'r labordai ym Mhorthaethwy.

Nid gwyddonwyr yn unig sy'n datgan syniadau fel hyn.

Mae gwyddonwyr wedi gwneud gwaith ymchwil ar drin embryos sydd wedi eu ffrwythloni.

Mae gwyddonwyr eraill o Rwsia wedi dangos fod dynion yn gweithio'n well ac yn gywirach wedi cael ginseng am ei fod yn symbylu'r gyfundrefn nerfol.

Lle bo angen, cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud yr offer - ac mae hyn yn hen draddodiad efo gwyddonwyr - nid yw darganfyddiadau gwyddonol bob amser yn dibynnu ar offer cymhleth a drudfawr.

Mae gwyddonwyr yn Siapan yn honni fod yfed chydig o alcohol - dim gormod rwan, cofiwch - yn eich gwneud yn fwy galluog.

Trwy hollti cnewyllyn atom yr elfen iwraniwm, llwyddodd gwyddonwyr yr ugeinfed ganrif i greu ynni niwcliar.