Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddost

gwyddost

Fel gwyddost ti, ma'r 'Dolig ydisgyn ar y Sul, ac y mae'r awdurdodau goruchel acw wedi trefnu i gael y cinio nos Lun am saith.

Fel y gwyddost ti, mae 'na bapur arall yn y dre' 'ma, ond maen nhw wedi methu dwad â fo allan wsnos yma - pibell wedi byrstio yno a'r dwr wedi difetha'u papur nhw.

Pan wêl y bleiddiaid eraill eu harweinydd yn farw fe giliant allan o'th golwg ond gwyddost eu bod yn dal yno yn disgwyl i ti ddisgyn o'r goeden.

'Mae pethau mawr wedi bod yn digwydd yn y pentre, 'machgen i, fel y gwyddost.

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

Ond nid yw'r dyfodol yn gyfrinach i Ti; gwyddost beth sydd o'n blaen.