Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddwn

gwyddwn

Roedd hyn yn dipyn o loes i'm cydletywr, ond doedd wiw iddo ef brofi ohono; ac atgoffwn innau ef yn gyson â'r geiriau: "Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn!" Roedd honno'n flwyddyn galed iawn, ond bwriais iddi'n ddiarbed gan y gwyddwn yn dda na fyddai ailgynnig mewn cyfnod felly.

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

Gwyddwn rywfodd, cyn i Mam ddweud hynny wrthyf, mai hwn oedd y wyrcws yr oeddwn wedi clywed cymaint o sôn amdano, ac wedi dysgu ei gasa/ u a'i ofni cyn ei weld hyd yn oed.

Gwyddwn ei ystyr ond rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn wedi sylweddoli mai deshabille o'r Ffrangeg oedd y gair.

Hyd y gwyddwn ddaru 'run ohonyn nhw anfon Cerdyn Post i egluro.

Gwyddwn, cyn y gallwn dderbyn y gwahoddiad, bod yn rhaid i mi ddelio â'r cymhellion yn fy nghalon.

Gwyddwn fod rhwystrau, megis pryder, ofn, casineb, cenfigen ac anfodlonrwydd, yn gallu rhwystro'r unigolyn rhag derbyn iachâd.

Gwyddwn yn rhy dda am record Talfan.

Ddywedodd o'r un gair, ond gwyddwn yn iawn beth oedd yn mynd drwy'i feddwl, 'Ddim yn hir!

Gwyddwn eu bod yn cuddio pethau oddi wrthym ni, y plant, ond ni pheidias yn fy ymchwil i ddod at y ffeithiau, a rhaid i mi gyfaddef i mi gael cryn gymorth gan fy modryb, Bopa Jane, chwaer fy mam, a oedd yn ddibynadwy ei gwybodaeth ac yn ddiflewyn ar dafod yn ei datguddiadau o'r ffeithiau.

Wyddwn i ddim tan yn ddiweddar ble'r oedd Maes Garmon er y gwyddwn wrth gwrs am yr ysgol enwog sy'n dwyn yr enw a bod honno yn yr Wyddgrug.

Y foment honno gwyddwn eu bod hwy wedi dod dros y ffin i'm bendithio.

Ni ddywedodd Dafydd hynny wrthyf ac ni ddywedais innau wrtho ef; ond gwyddwn ein bod ein dau fel pe buasem o hyd yn disgwyl i Abel ddyfod i mewn.

Gwyddwn y buasai'r teithiwr nesa' yntau'n methu dod oddiarni, neu y buaswn i'n cael fy nharo'n anymwybodol ganddo ef neu'r gadair.

Gwyddwn nad oedd unrhyw brofiad a allai fy ngwahanu i oddi wrth gariad Crist.

Gwyddwn fy mod yn hunangar, ond ni allwn ei helpio.

Gwyddwn bopeth amdani gan mod i wedi gweld y llong yma o'r blaen yn fy mreuddwyd .

Felly, gwyddwn trwy brofiad am holl bosibiliadau'r Cilgwyn!

Gwyddwn wrth edrych i'w lygaid nerfus-galed fod mwy na lled y dref yn ein gwahanu.

Gwyddwn fy mod yn curo fy mhen yn erbyn diymadferthoedd oesoesol y monolith.

Gwyddwn fod gan yr Athro, ac yntau'r feirniad diarbed ar bob math o ragrith ac annidwylledd ym mywyd y genedl, bethau go gyrhaeddgar i'w dweud ar bwnc llosg yr iaith.

Gwyddwn fod yr amser yn nesau i mi symud i ddosbarth Modryb Lisi ym mhen pella'r festri, a dyna'r unig dro nad oeddwn am dyfu i fyny.

Ond rywbryd cefnodd ar Gymru, a gwyddwn - drwyr codwr pwysau Myrddin John - ei fod mewn swydd dda rywle yn nwyrain Lloegr.

'Sut gwyddwn i fod yma le mor gyntefig?' atebodd Dilys yn chwyrn.

Ydw, mi rydw i yn hoff iawn o grempog, byth ers yr adeg y byddwn yn rhedeg nerth fy nhraed o'r ysgol fach am adref ar y dydd arbennig hwn, gan y gwyddwn y byddai Mam wedi gwneud platiaid uchel o grempogau mawrion ac yn disgwyl amdanom i'w bwyta.

Gwyddwn fod yna frodyr a chwiorydd a oedd yn dioddef pob math o bethau mewn gwledydd comiwnyddol, yn syml oherwydd eu bod yn credu yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr.

Gwyddwn ers blynyddoedd lawer fod ganddo ef gasgliad da o'r "Amserau% a'r "Cronicl" - naill wedi ei argraffu yn Ynys Manaw a'r llall yn y Channel Islands, i osgoi'r dreth a osodid ar bapurau newydd.

Dydd Sadwrn oedd y diwrnod olaf i dderbyn y cyfansoddiadau a gwyddwn i fod Llew yn brysur yn ysgrifennu ei nofel gyntaf; ond pan euthum heibio dydd Sadwrn nid oedd yn barod, ac ni fyddai tan y dydd Mercher canlynol.

Gwyddwn yn union ble i ddod o hyd i swyddfa'r trysorydd, a'r salŵn, a'r cabanau dosbarth cyntaf .

Yn fy ngalar a'm hiraeth, gwyddwn pe bawn yn medru derbyn marw fy nyweddi heb deimlo'n anfodlon a heb chwerwi, y byddwn wedi datblygu'n ysbrydol.

Pan glywais Mr Jenkins London House yn dweud, 'Mae 'na fwy yn Miss Lloyd nag y mae neb wedi'i ddychmygu,' gwyddwn iddi gyrraedd rhyw nen gymdeithasol go uchel yn yr ardal.

Miss Aster a ddangosodd iddo sut i edrych arnaf i: ond gwyddwn yn eithaf da mai i blesio Mam y chwipiodd honno ei difaterwch cynhenid yn gasineb.

Ychydig iawn o gwsg a gefais y noson honno, wedi'r cwbwl, nis gwyddwn oedd Mr Bates hyd yn oed yn Dori!

Ac fe aeth ymlaen i ddarllen 'Adnabod' - a gwyddwn cyn iddo orffen mai honno oedd ei gân oedd yn mynegi'r hyn yr oedd ef yn dyheu amdano - sef gweld cariad ac ewyllys da yn bodoli rhwng pobl o wahanol genhedloedd.dyma Waldo'n gofyn iddo a oedd ganddo lamp beic i'w gwerthu.

Gwyddwn oddi wrth ei ystum mai dyna ei air olaf; yr oedd bellach yn awyddus i'm gadael.

Hi hefyd yw ysgrifennydd y cwmni a gwyddwn mai hi bellach oedd yn hybu a phwnio Enoc, yn lle Gwyn.

"Dyna y gwyddwn i ymhle'r oeddach chi'n byw, i ddweud wrth yr hogia yn yr iard, er na wyddwn i mo'ch enw chi."