Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddys

gwyddys

Fel y gwyddys, pur amheus oedd y Methodistiaid Calfinaidd o werth colegau a'r addysg a gyfrennid ynddynt.

Ceid ym mynachlogydd Margam a Nedd hen weithredoedd o bob math a chofnodion megis 'The Register of Neath', yn ogystal a chroniclau, fel y gwyddys.

Gwyddys iddo ef ei hun gael addysg bur dda, ei fod yn gyfarwydd â llyfrau, ac yn hyddysg yn niwinyddiaeth y Piwritaniaid mawr fel yng nghanlyruadau gwaith y gwyddonwyr mawr.

MARGAM A NEDD: William Corntwn oedd y cyntaf o abadau Margam y cadwyd canu iddo, hyd y gwyddys - a bwrw mai dyma'r William Abad y canodd Dafydd Nant a Lewis Glyn Cothi iddo.

Gwyddys hefyd fod canu baledi yn weithgarwch poblogaidd ymhlith rhai o drigolion y dyffryn, a'r rheini'n aml yn wŷr a brofodd ddyddiau gwell, megis Evan Nathaniel, brodor o'r Alltwen yn wreiddiol, a fu'n crwydro'r cymoedd yn canu a gwerthu baledi.

Gan fod cynifer o ddisgynyddion y gwr hwn yn byw yn ardal Brynaman heddiw, gwyddys llawer mwy amdano na neb o'i frodyr.

Gwyddys bellach mai ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ddwyn allan argraffiad diwygiedig o'r Beibl a wnaeth yr Esgob Parry, a chael gan ei gyfaill ysgolheigaidd a galluog, person Mallwyd, wneud y rhan fwyaf o'r gwaith.

Gwyddys, yn wir, fod y Lolardiaid wedi dal i ddarllen eu Beiblau a pharhau i addoli yn y dirgel i lawr hyd at adeg y Diwygiad Protestanaidd.

O ganlyniad yr oedd yn ofynnol i amryw o bregethwyr gadw fferm neu dyddyn, a gwyddys fod William Evans yr efengylwr o Gwmllynfell yn un o'r amaethwyr mwyaf cysurus yn y gymdogaeth.

Gwyddys, wrth gwrs, fod rhai anifeiliaid megis ceirw, defaid, geifr a gwartheg yn cnoi cil.

Fel y gwyddys, gadawodd Bebb y Blaid oherwydd iddo anghytuno â'i Niwtraliaeth - safbwynt tra gwahanol i eiddo ei feistr 'athrylithgar', Charles Maurras, a ddarganfu ei fod yn casa/ u Iddewon, Bolsieficiaeth a Democratiaeth yn fwy, hyd yn oed, nag y casâi'r Almaen.

Traddodiad llenyddol Morgannwg yr Oesoedd Canol a olrheiniwyd gan yr Athro GJ Williams yn ei gyfrol ar y pwnc, fel y gwyddys.

Gwyddys iddo fod mewn ysgol ramadeg a bod ei deulu yn ôl pob golwg yn rhai o uchelwyr y sir.

Wrth gwrs, os dymuna'r gyrrwr ddadlau'r mater, caiff beidio â thalu yn y fan a'r lle a dewis ymladd yr achos mewn llys barn þ hawl sy'n bodoli eisoes, fel y gwyddys.