Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwydr

gwydr

Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.

Wrth ochr y beddau roedd cwpwrdd gwydr enfawr a'i lond o benglogau'r trueniaid.

Swagrodd y tri trwy'r drysau gwydr crand fel pe baent yn cerdded i salwn yn y Wild West.

Arweiniodd y llwybr ni ymlaen at ochr y tŷ gwydr ac agorodd y bwtler ddrws i mi a safodd o'r neilltu.

Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!

Erbyn dechrau'r mis, dylai'r tŷ gwydr fod yn glir ar gyfer plannu cnwd yn ei forderi os symudwyd y planhigion a oedd mewn blychau a photiau i'r ffrâm oer i gael eu caledu.

Nid hawdd yw cyffredinoli ynghylch pa bryd y dylid symud y planhigion o'r tŷ gwydr i'r ffrâm oer er mwyn eu caledu.

Y syniad o'r prism gwydr lle mae ein hadroddiadau ni o wledydd tramor yn mynd trwy ryw lens Gymreig cyn cael eu darlledu.

Tegeiriannau'r trofannau a welwn yn ein siopau blodau ac yn tyfu mewn tai gwydr cynnes.

Ni ddylid tyfu tomatos a chucumerau yn yr un tŷ gwydr gan fod gofynion amgylchfyd y ddau gnwd mor wahanol i'w gilydd.

Mae mawnogydd hefyd yn cynnwys carbon sydd, ar ffurf carbon deuocsid, yn rhannol gyfrifol am yr Effaith Tŷ Gwydr.

Wrth wneud hyn, dyma'r drws yn taro clustdlws gwydr oddi ar fy nghlust.

'Roedd yr EP, Yr Unig Ateb! gan Ty Gwydr ym 1990 yn gwbl wefreiddiol ond, yn naturiol, mae'r gerddoriaeth wedi dyddio erbyn hyn.

"Ydi," ebe'i ffrind, "Torrodd y llythrennau "DB" hefo'i gyllell boced ar un o lysiau gorau'r prifathro yn ei dŷ gwydr.

Dros y blynyddoedd mae John Griffiths a Kevs Ford wedi cydweithio gyda Datblygu, Ty Gwydr, Tystion ac Anweledig a nifer o artistiaid eraill ac yn yr albwm newydd mae cyfraniadau gan Lauren Bentham, Geraint Jarman, Sian James, Gai T, Ceri C, Jaffa ac MC Sleifar.

Hefyd, ceir y drysau gwydr dwbl hynny sy'n nodweddu adeiladau a'r fath.

Roedd y waliau gwydr a'r to yn drwm gan ager a thasgai diferion mawr o leithder i lawr ar ben y planhigion.

'Roedd o fodfedd i fodfedd a hanner o egin arnynt eisoes, hwy nag arfer oherwydd y gaeaf cynnes, yna gorchuddio'r cyfan nes bod yr egin deiliog hefyd o dan bridd, a'u gadael yn y tū gwydr.

Yr enw ar ddefnyddiau fel y rhain megis gwydr barugog, polythen trwchus, niwl a rhai mathau o grisialau naturiol megis cwarts er enghraifft, yw defnyddiau tryleu.A fedrwch chwi ddarganfod unrhyw bethau tryleu?

Mae o'n gwasgu'i wyneb i'r ffenest ac yn crafu'i ewinedd hyd y gwydr.

Cynhyrchir dur pan wresogir mwyn haearn mewn ffwrneisi enfawr; creir gwydr o dywod a dwymir hyd nes ei fod yn toddi.

Sylfaen ffibr optegol yw ei chraidd tenau iawn o wydr neu silica, wedi'i orchuddio â gwydr o indecs plygiant llai.

Roedd hyn yng nghyfnod y negatifau gwydr.

Gwasgodd ei thrwyn yn obeithiol yn erbyn y gwydr mewn ymgais i weld y tu ôl i'r gegin, ond yn ofer.

`Nawr amdani ...' Tynnodd linyn y bwa gwydr ffibr yn ôl a saethodd saeth fry uwchben y wal.

Gwell, efallai, fyddai neilltuo'r tŷ gwydr ar gyfer tomatos a thyfu'r cucumerau grwn mewn rhych y tu allan.

Yn groes i holl gynghorion y swyddogion lles a diogelwch ar y teledu roedd wedi gosod y drych yn fwriadol yn y man hwnnw fel bod pob cwmwl o fwg-taro yn melynu'r gwydr.

Nid yw'r wybodaeth a gasglwyd wedi ei llawn ddadansoddi eto ond gobeithir deall mwy am gydeffeithiau y moroedd a'r atmosffer, a'r cysylltiad rhwng yr effaith tū gwydr, y newidiadau ym mhatrymau tywydd yn fyd eang (e.e.

Yn hytrach na chrisial, defnyddir fel rheol ddeunydd ar ffurf gwydr yn sail i'r laser ffibr.

Mae'r rhan fwyaf o bethau a welwch yn adlewyrchu goleuni o'r haul neu o fwlb gwydr a dwr.

I gyfeiliant s n gwydr yn torri'n deilchion a sgrechfeydd y gwylwyr syrthiodd y lori ar ei hochr.

Y trydydd diwrnod o sgio, roedd y llethrau'n brin o eira a'r rhew fel gwydr.

Felly dewisodd y bwtler yr eiliad gyfleus honno i ddychwelyd trwy'r drysau gwydr a'm gweld yn ei dal.

Aethom allan trwy'r drysau gwydr ac ar hyd llwybr llyfn o fflagiau coch a oedd yn arwain o'r garej hyd ymyl pellaf y lawnt.

Y tu draw iddynt hwy safai tŷ gwydr mawr gyda tho crwn uchel.

Oedodd Jabas yn y cyntedd a stagio trwy'r dorau gwydr.

Felna y daeth yr wythnos y cyhoeddodd Rhodri Morgan ei fod yn cloffi ynglyn âr adeilad efor peli bach gwydr yn gartref i'r Cynulliad i ben.

Canolbwynt y cyfan ydy'r tŷ gwydr enfawr sydd yn gwarchod y planhigion.

Ymhen blynyddoedd daeth y naw tŷ hyn o dan yr un to, fel y digwyddodd yn Sycharth, Mae'r gwydr lliw yn y ffenestri yn denu sylw Iolo hefyd.

Mor wahannol fu'r gaeaf eleni i syniadau Mr J Rhys Davies, Pontyberem am aeaf traddodiadol - Oriau maith yr oriau mân - y gwydr goed Yn y gwynt yn gwegian Briw a gwae sy lle bu'r gân Ac angau lle bu'r gyngan.

Ar ochr ddwyreiniol y cyntedd, arweiniai grisiau wedi eu haddurno â theils i fyny i oriel â rheiliau haearn a thamaid arall o ramant gwydr lliw.

Aeth y fam i nôl y lamp i ddal golau iddynt, ond daeth ebwch o wynt a gyrru tafod o fflam i fyny'r gwydr.

Y broblem fwyaf efo'r gwledda yw'r 'baijiu' (llythrennol - alcohol gwyn) a'r 'ganbei' (llythrennol 'sychu gwydr').

Yr ateb yw, ar ôl profi hynny, y buasent yn tyfu nes cyffwrdd y gwydr a'r plastig yn rhy gynnar, rheini yn mynd mor oer ar noson rewllyd neu farugog nes difetha'r gwlydd (gwrysg) gyffyrddid.