Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.