Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyliadwriaeth

gwyliadwriaeth

Nid oedd yn anodd i hogiau'r Nant sleifio adre gan fod Llwybr y Garreg Wen y tu ôl i domennydd uchel o rwbel, ac os am ddal troseddwr byddai'n rhaid i stiward fynd i ben un ohonynt i gadw gwyliadwriaeth.

Synnai Nofa at eu diffyg gofal a gwyliadwriaeth, ond gwyddai'n reddfol erbyn hyn nad oedd yna lawer o bobl yn y wlad a fyddai'n gallu peri problem iddo.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

Ei waith o oedd cario bwyd iddynt a chadw gwyliadwriaeth, a chysylltu ag aelodau eraill o'r gang.

Byddai'r rheolwr yn gyfrifol am gadw cyfrif manwl o'r holl bryniant yn ystod yr wythnos gan gadw gwyliadwriaeth fanwl ar y stoc yn ogystal.