Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwylltio

gwylltio

Rhedodd allan wedi gwylltio at un o'r awyrennau.

Gwylltio efo un dosbarth oedd yn cau ateb cwestiynau.

Pobol yn gwylltio'n gacwn efo dynion a merched Lolipop.

Paid gwylltio, maen bosib y bydd yna funudau o banic, ond fe ddaw hynna i fwcwl yn sydyn.

Roedd Myrddin yn dechrau gwylltio rwan.

Er fod yna nifer o gamgymeriadau blêr fyddain gwylltio puryddion (ers pryd mar Gorkys yn dod o Ogledd Cymru?!), ar y cyfan maen gofnod difyr, manwl a hawdd ei ddarllen nid yn unig o ddatblygiad anhygoel cwlt Cerys, ond hefyd o'r chwyldro cerddorol gymerodd blynyddoedd i'w lunio.

Ond i goroni'r cyfan, a dyma oedd yn wir yn groes i'r graen ac yn ei gwylltio, roedd yn golygu ei bod yn awr wythnos yn hwyr yn dychwelyd i'w gwaith.

Cafodd dipyn o drafferth efo drws y garej yn gwrthod cau - roedd o wedi sôn droeon wrth y giaffar ac wrth Mrs Rowlands am gyflwr y clo yna - ac felly roedd hi bron yn bum munud ar hugain i wyth pan drodd o'r gornel i mewn i stad Llys y Gwynt ac roedd Elfed wedi gwylltio braidd efo Elsie Williams a'i chriw.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Yn hytrach na gwylltio gyda Man Friday, daw'r Tywysog Bach yn ôl at ei rosyn ac adrodd stori wrtho am Man Friday a'r blaned arbennig y mae'n byw arni.

Beth ddylai'r Tywysog Bach ei wneud - gwylltio a mynd i ryfel yn erbyn Man Friday, ynteu wrando arno a bwyta'r rhosyn?

Yn lle'r hen Dalfan wyllt, gwelwn yn datblygu fachgen mewnblyg, prin ei eiriau a fyddai'n gwylltio'n gaclwn am y rheswm lleiaf.

Dechreuodd yr hogiau dynnu ar y gyrrwr a hwnnw'n amlwg yn gwylltio'n gacwn.

Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.

HEULWEN: 'Ti'n gwybod fel mae hynny'n gwylltio dy dad.

Wedi gwylltio'n gacwn, ffoniodd hi'r rhif ar waelod y ffurflen Saesneg a dechrau pregethu ynglyn â hawliau Cymry Cymraeg i dderbyn gwasanaeth dwyieithog yn eu gwlad eu hunain.