Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwylltion

gwylltion

Yn y blynyddoedd hynny byddai llawer yn mynd i'r traeth o ddiwedd Ebrill hyd ddechrau Mehefin i ddal llymriaid, a chawn innau godi gyda'r wawr i fynd efo 'Nhad - y fo yn palu efo fforch datws a minnau'n dal y llymriaid arian, gwylltion a'u rhoi yn y bwced.

Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.

Ymhobman roedd blodau gwylltion amryliw.

Y darluniad cywiraf a fedrwn roddi o'r golygfeydd ar y daith hon ydyw disgrifiad a roddir gan Solomon o faes a welodd ef yn rhywle: `Wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr (goed) a syrthiasai i lawr; y palasau ydynt wrthodedig - yr amddiffynfeydd ydynt yn ogofeydd, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa diadelloedd.'

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

O'r rhain y daeth hadau'r blodau gwylltion y mac'r goedwig erbyn hyn yn enwog amdanynt.

Câi driniaeth mewn ysbyty ar ôl pob curfa, ond nid oedd dim tynerwch i'w gael yn y fan honno ychwaith--mae'n disgrifio fel y câi ef, a rhyw ugain o ddynion eraill oedd yn dioddef gan effeithiau fflangellu, eu gyrru fel anifeiliaid gwylltion i'r môr bob bore er mwyn i'r dwr hallt losgi'r briwiau.

Yna, tywyllwch dudew, unffurf y nos yn llonyddu'r llygaid yn llwyr, a'r holl fryd yn cael ei ganoli ar seiniau 'soniarus' (gair sydd ynddo'i hun yn soniarus) y gwyddau gwylltion ymhell uwchben yn rhywle.

Eryrod, cathod gwylltion a llwynogod yw eu gelynion naturiol hwy yn yr Alban ac os bydd y gelynion hyn yn fygythiad gwirioneddol mewn cylch arbennig, ymfuda'r ysgyfarnogod i ddiogelwch rhyw gylch arall.

Gan fod dyn wedi byw yn agos at natur a'r adar a'r anifeiliaid gwylltion ers ei ddyddiau cynharaf, mae'n naturiol bod llawer o'r chwedlau byrion hyn yn defnyddio rhai o nodweddion cymeriadau o fyd natur.

Rhinwedd y tyddynnwr anhysbys o safbwynt llysieuwr yw na wellodd y tir ac oherwydd hyn mae'r caeau'n frith o flodau gwylltion yn y gwanwyn a'r haf; gwyn y llygad eglur, melyn y gribell felen, coch ysgafn y bengaled a choch tywyll y teim ynghyd â nifer o degeiriannau fel y tegeirian brych Dactylorhiza maculata y tegeirian brych cyffredin D.

Maen nhw'n dychmygu eu bod nhw'n fleiddiaid neu'n anifeiliaid gwylltion eraill.