Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwympo

gwympo

"Dyma'r goes fetel," gwaeddodd un o'r gelyn wrth edrych drwy ddarnau o'r Spitfire ar ôl iddi gwympo.

Newidiodd Rhys fywyd Hywel a hynny mewn sawl ffordd - dechreuodd Hywel a Llew gwympo mas ac o ganlyniad cafodd Hywel ei saethu.

Soniai am y ganmoliaeth a gafodd gan y meddyg lleol ar ôl ymarfer cymorth cyntaf pan dorrodd fy mrawd hynaf ei fraich wrth gwympo ar y 'patshyn'.

Ar ôl trosglwyddo'r garreg i'r cychod a fyddai'n ei chludo daeth anffawd arall wrth i'r garreg gwympo i wely'r môr.

Fe all y rhain gario firwsau byw am fisoedd hyd yn oed ar ôl iddynt gwympo i ffwrdd.

Ni all y genedl cyn marw wneuthur yr un ewyllys ar ei chyfoeth; rhaid i'r holl eiddo fynd yn sied, rhaid iddo gwympo, fel pob eiddo di-etifedd, i sawnsri Lloegr.