Lluchid y platiau gwynias rhwng y gweithiwr ffwrnais, y rowlwr a'r dwblwr, ac ni allai neb aros ar ganol y felin heb gael ei daro tra gweithredid y broses hon.
Yr oedd gweithio ffwrnais yn llafur aruthrol, oblegid golygai drin platiau trymion a gwynias gyda gefail hir.