Cofiaf i mi sylwi y bore hwnnw fod rhai o'r plant yn y dosbarth wedi eu gwisgo yn hollol yr un fath â'i gilydd - pedwar neu bump o fechgyn yn f'ymyl mewn siwt lwyd, dywyll, hynod o blaen, er yn lân, a rhai genethod mewn siwt o'r un lliw a defnydd, a'r un patrwm â'i gilydd yn union, gyda ffedogau gwynion, llaes a dwy lythyren wedi eu stampio arnynt.
Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.
Gwallt du fel creigiau'n gwreichioni'n yr haul, dyna ddywedai Iestyn wrthi, a'i dannedd fel cregyn bach gwynion a lynai wrthynt yn cuddio tu ôl iddo.
Yna bydd y rhisgl yn syrthio'n glytiau, eu tu allan yn ddu a threuliau'r trychfilod fel gweadau gwynion y tu mewn iddynt.
Fe alwodd ar y Bwrdd hefyd i sefydlu: * Adain weithredu frys i ymateb yn gyflym i unrhyw gwynion.
Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.
Fe groesodd y crysau gwynion linell Cross Keys wyth o weithiau gyda'r wythwr Lee Jones yn sgori ddwywaith.
O bob cyfeiriad daw dynion a merched mewn crysau gwynion i gynnig canapés a vol-au-vents yr un mor lliwgar.
A hithau mor dywyll a chanhwyllau'n goleuo, edrychent yn eu lifrai gwynion fel y côr o angylion gynt.
Ond roedd hyfforddwr Abertawe a hyfforddwr Caerffili, Gareth Nicholas, yn llygad eu lle yn eu hymateb i gwynion personol ynglyn âr ystyriaethau corfforol.
Mae'r enw Cymraeg yn cofnodi fod gan y tegeirian hwn ddwy ddeilen fawr Iydan ger ei fôn, tra bo'r enw Saesneg, 'Greater Butterfly Orchid' yn tynnu sylw at y modd y gorwedda'r petalau gwynion ar led fel adenydd gloyn ar fin hedfan.
A phrifathrawes a allai roi stŵr iddyn nhw a chadw trefn heb iddyn nhw deimlo eu bod yn cael cam - os nad oedd y gwynion yn teimlo hynny ambell waith?
O drefnu taith yn ofalus ac amseru pethau'n berffaith, fe fyddai modd cael `gorau deufyd' - lluniau rhesi di-ddiwedd o feddau, o dorwyr beddau wrthi'n claddu'r meirw, o blant a'u rhieni'n gorweddian rhwng byw a marw, a'r lluniau cynta' o wynebau gwynion yn cyrraedd gyda'r lori%au i adfer gobaith.
Pan brioda Shôn a minnau Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau Ieir y mynydd yn blu gwynion Ceiliog twrci fydd y Person.
Ac yn Ffrainc heno mae'r gweithwyr gwynion yn griddfan dan sbeit y cyfalafwyr y maen'hw'n gwneud modrwyau iddyn'nhw, a tai, a cheir modur, a gwin; ac yn yr Eidal heno, ac yn y Sbaen heno, ac yn Lloegr heno, ac yng Nghymru heno.
Tymor neu ddau arall a bydd yr holl fawredd wedi mynd a dim ond urddas angau yn aros yn y sgerbydau gwynion.
Beth bynnag, wn i ddim yn union ar ba gangen o'r goeden achau dwi'n sefyll ar hyn o bryd, os newch chi faddau i mi am gymysgu delweddau am eiliad; wn i ddim os ydw i yng nghorlan y defaid gwynion neu'r defaid duon ('da chi'n gweld, roedd hi'n anodd gosod dafad ar goeden, neu frigyn, neu mewn nyth, yn doedd?).
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn llu o gwynion gan bobl yn Aberystwyth am na chynigiwyd ffurflen Gymraeg iddynt.
O na bai'n cael llonydd ganddynt i ddilyn ei briod waith ei hun: troi melinau gwynt i falu grawn yn fwyd i'r plantos, llenwi hwyliau gwynion llongau a'u gwthio dros groen yr eigion, dal ei law dan esgyll adar mawr a mân.
Lledaenodd fflam y Chwith adweithiol newydd drwy Ewrop, protestiai Americanwyr ifanc yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, a phrotestiai'r duon yn erbyn gormes y gwynion.
Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.
Tai oedd testun y nifer ail fwyaf o gwynion ac eleni 'roedd y pryder ynglŷn â'r modd yr oedd rhai awdurdodau wedi bod yn dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddynt.
Dywedodd Haf Elgar sy'n arwain ymgyrch ddarlledu y Gymdeithas,'Yr ydym yn gwneud y cais hwn am gyfarfod yn dilyn derbyn nifer o gwynion llafar ac ysgrifenedig oddi wrth aelodau'r Cynulliad sy'n dweud eu bod o dan anfantais os siaradant Gymraeg.
Fe ysgrifennwyd llythyr at y cwmni a chwyno amdano a chan fod llawer o gwynion tebyg, fe'i diswyddwyd yn fuan wedyn.
Ond mân gwynion yw'r rhain.
Un o brif gwynion gweithwyr y gwasanaethau achub yw eu bod nhw'n rhy aml o lawer yn gorfod mentro eu bywydau am fod rhywun arall wedi bod yn ddiofal.
Oedd, roedd Stuart wedi dysgu lle'r oedd 'i le fe fel creadur du 'i groen, a chael 'i atgoffa ohono bob tro'r âi i fyd yn gwynion tu fas i ardal y docie, neu pan ddâi rhywun o'r tu fas i lawr i'r clinig plant neu i ymweld ag Ysgol Mount Stuart.
Er mai browngoch yw lliw ysgyfarnogod gan amlaf, y mae rhai gwynion i'w cael yn achlysurol, ond eithriadau yw'r rheini.
Deud wrtho fo am fynd yn ôl i'w nyth yn y gogledd lle mae wyau'r glaw yn deor fel ffynhonnau gwynion, tydan ni ddim isio'i fath o ffordd hyn.
Byddech yn meddwl fod trafficwyr caethion gwynion yn llechu yng nghysgod pob drws siop yn Amwythig.
Roedd Hywel wedi ei wisgo mewn sgarlad, gyda ryfflau gwynion am ei wddf a'i addyrnau.
tonnau'n chwyddo yn y pellter fel mynyddoedd mawr symudol, ac yn nesu a thorri'n gesyg gwynion anferth a chlecian a chwalu ar y Maen Du.
Nid ychwanegwyd fawr ddim ers yr ail ganrif ar bymtheg i darfu ar ei eglwys foel un gofeb a'i glwstwr o ffermdai gwynion.
O'r nenfwd uwch eu pennau, o'r waliau o'u cwmpas ac o'r llawr oddi tanynt daeth tonnau gwynion o oleuni llachar.
Yn ol Ieuan Lewis, Prif Swyddog Technegol Cyngor Arfon, nid oedd ei adran wedi derbyn unrhyw gwynion am y gwaith adnewyddu, ac roedd y perchenogion wedi arwyddo ffurflen i ddatgan eu bod nhw'n hapus efo'r cynllun cyn i'r gwaith ddechrau.
Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?
Y mae'n bosibl mai gan butain o Ganolbarth Affrica yr heintiwyd y dynion gwynion cyntaf.