Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyno

gwyno

Mae gennym ninnau, Gymry, le i gwyno am y diffyg gofal a pharch y mae'r Ffrancod yn ei ddangos tuag at Lythyr Pennal Owain Glyn Dwr.

Maen ymddangos i mi fod llawer o gwyno di-angen , fel pe wedi eu cynllwynio.

Ni allai gwyno am yr ystafell na'r gwely chwaith.

Nid rhyfedd felly i Sion ap Hywel Gwyn, car arall eto i'r abad hwn, ganu gan gwyno nad oedd modd cael y croeso arferol yn y fynachlog pan oedd Iorwerth yno, ac y dylid ei anfon ymaith.

Unwaith y sylweddolodd na fyddai'n gallu dychwelyd i'w gwaith ar y dyddiad a drefnwyd, cysylltodd â chynifer o'i chyflogwyr ag y gallai i ymddiheuro, ac i gwyno am ei merch or-ofalus.

Mae Ffederasiwn Pêl-droed yr Eidal wedi ysgrifennu at UEFA i gwyno am ddyfarnwr y gêm.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Ac weithiau meddyliaf ein bod wrth gwyno am y cam a ddioddefwn fel Plaid, megis ynglŷn â darllediadau gwleidyddol, er enghraifft, yn methu â dirnad yn llawn y bygythiad a wnawn i lawer o'r buddiannau breiniol yn Llundain, ac fe fyddai'n achos pryder mawr i mi pe na bai'r llywodraeth ganol yn ceisio llesteirio'n cynnydd.

* Swyddfa mewn ardal Gymraeg ei hiath, er mwyn bod o fewn cyrraedd hawdd i bobol sydd am gwyno ynglŷn ag annhegwch - "Fydd pobol ddim yn fodlon ffonio Caerdydd," meddai, "oherwydd y teimlad o bellter."

Mae'n ffasiynol iawn y dyddiau yma i gwyno bod y Nadolig yn cael ei ddathlu mewn ffordd sy'n llawer iawn rhy faterol, a bod gwir ystyr yr ŵyl wedi ei hen anghofio gan y rhan fwyaf ohonom ni.

Ac mae Gruff yn dal i gwyno fod y peli bach yna o bapur arian bob lliw mae o'n eu darganfod yn y gwely yn 'i gadw fo'n effro'r nos ac yn mynd i mewn i'w byjamas o.

Yna, wrth iddi ddod yn nes, codid eu lleisiau i gwyno am y tywydd neu i holi sut oedd peswch Joni bach erbyn hyn.

Mynd â'r Betsan 'na adre, debyg, ond 'châi hi ddim gwybod dim gynno fo, er iddi gwyno a phregethu ar hyd y ffordd adre.

Cofiodd Francis fel y bu i Siôn Elias gwyno wrtho ryw chwe wythnos cyn hynny fod y mab wedi torri ei wn, a'i fod yn cario llawddryll chwe siambr i'w ganlyn i bobman.

'Wi ddim yn credu y gall Scott Gibbs gwyno.

O gymharu â deddfwriaeth yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu ar sail rhyw neu anabledd, mae trefn gwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi ei llwytho o blaid y corff cyhoeddus ac yn erbyn y defnyddwyr.

Penderfyniad y Gangen oedd newid banc ond yn gyntaf i gwyno'n gryf iawn i'r TSB.

Daliai i gwyno'n enbyd.

Ni chymerodd Bleddyn arno ei fod wedi clywed dim a ddywedodd Alun, ac aeth ymlaen i gwyno am Bedwyr.

Ar y ffordd adref, un diwrnod, dyma yrrwr y bws (a oedd yr adeg honno yn fws gwasanaeth Crosville) yn stopio cyn cyrraedd Ty'n y Coed (ar ffordd Penmachno) ac yn mynd i'r cae i hel myshrwms - a'r plant a'r bobl yn edrych arno heb gwyno dim.

Mi aeth trigolion Glan Aber, Porth Tywyn, at yr heddlu i gwyno am y bachgen, sy'n cael ei alw'n lleol yn Dick Turpin.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wedi anfon llythyr chwyrn at y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn Llundain a'r Swyddog Cyfrifiad Lleol yn Nhregaron i gwyno oherwydd fod yr ymarfer hwn yn rhagfarnu yn erbyn Cymry Cymraeg.

A phan fu hi (Helen Maryr r) aaglen ffôn ar y radio ni chafwyd yr un alwad ar y pwnc er i'r cyflwynydd, meddai, wneud ei orau i gael aelodau o'r frawdoliaeth gudd i gwyno.