Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyntoedd

gwyntoedd

Oedi'n hir yn eu blagur a wnaethai dail y coed tra chwythai gwyntoedd Mawrth yn gryf ac yn oer.

Byddai eu hôl i'w weld am ugain mlynedd o bosibl, ond ni fyddai dwst gwyntoedd yr anialwch yn hir cyn dileu ôl traed y camelod.

Yn yr ail ran hon, ceid cutiau bychain crynion ag arnynt do o wellt neu frwyn ­ byddai eu lloriau'n is na'r ddaear oddi amgylch er mwyn cadw'r tŷ'n gynnes ac o afael y gwyntoedd.

Mae gan Gymru hinsawdd arforol gyda gwyntoedd gorllewinol yn dod â glaw ym mhob mis o'r flwyddyn, ac yn aml meddylir am Gymru fel gwlad wlyb.

A phan weli'n dda ganiatâu i'r stormydd ein taro ac i'r gwyntoedd ruo o'n cwmpas, fe'n gorfodir i sylweddoli pa mor wan yw nerthoedd dyn er ei holl wyddoniaeth a pha mor frau yw ein bywyd ninnau.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Gwyddom ninnau am beryglon gaeaf - am y rhew caled sy'n dod â rhyndod ac angau i'r hen, neu'r gwyntoedd nerthol sy'n corddi'r môr a pheri iddo orlifo'r tir.

Wrth agosa/ u ar y fordaith gartref am Sianel y Saeson yr oedd llawer o longau hwyliau yn curo yn erbyn gwyntoedd croesion a llawer ohonynt wedi mynd yn brin o fwyd.