Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyro

gwyro

Ninnau'n dal ein hanadl wrth ei dilyn drwy'r drysni a'i gwylio'n gwyro dros y dibyn, ac yn cyd-lawenhau yng ngwir ystyr y gair wrth iddi godi'r ddafad ar ei hysgwyddau.

'Beth sy' gen' i dwi'n 'i roi a beth dwi'n gael dwi'n 'i gadw,' meddai hi a phocedu'r goron.) Ailgychwyn o Bontarelan; lle mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith rhyw hanner milltir tu hwnt i'r bont, gadael y car a cherdded ar hyd yr hen ffordd las sy'n mynd ar letcroes i fyny'r llechwedd i'r dde.

A'i lais yn fflat a diemosiwn, canolbwyntiai ar geisio cadw'r car rhag gwyro oddi ar ffordd gul, droellog ar hyd yr arfordir a disgyn dros y clogwyn serth i'r môr.

"Paid â chymryd sylw ohoni." Gallai daeru bod yr wylan wedi gwyro'i phen ac wedi gwenu'n sbeitlyd arno pan ddywedodd hynny.

Arferai hawlio ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd nad oedd yn gwneud dim ond dilyn yr hen dadau Methodistaidd yr oedd cenhedlaeth ei dad wedi gwyro oddi wrth eu dysgeidiaeth.

Ers marwolaeth Diana bu rhyw fath o râs ymataliol ac maen debyg mair lluniau dros o Sul ydoedd y gwyro gwirioneddol cyntaf oddi wrth hynny - a hynny dan sêl bendith y Frenhiniaeth ei hun a oedd yn siwr o fod yn ymlawenhau yn yr holl sylw canmoliaethus.

Yn hytrach nag anelu'n union at y garnedd mae'n werth gwyro rhyw ychydig i'r dde er mwyn osgoi mawnogydd gwlybion Cors yr Hwch a Blaenrhiwnant.

Ar ddiwedd y daith honno roedd yn ofynnol i ni wedyn gario un o'n cydfilwyr ar ein hysgwydd am gan llath, yna gwyro ar un pen-glin, a saethu at darged, ac os na lwyddid i gael hanner yr ergydion naill ai i'r canol neu o fewn ffiniau'r magpie' - fel y'i gelwid - rhaid fyddai gwneud y daith unwaith yn rhagor.

Yn lle rhethreg sicr, soniarus, mae'r ymadrodd yn gwyro tua'r llawr, yn gorffen mewn sibrydiad.

Gwyro Llwybrau Cyhoeddus

Dywedais wrth Jock am gadw'i lygaid yn agored rhag i 'Gwep Babi' ddod yn ôl, a rhuthrais at waelod y to lle'r oedd y ferch erbyn hyn yn gwyro trosodd, a bron syrthio bendramwnwgl i'r iard.

Rhywle mewn ystafell ddirgel yn y Swyddfa Ryfel yn Llundain bu dynion yn gwyro uwch map o fynydd-dir Cymru, ac wedi astudio'r tirwedd a chyfrif erwau, daethpwyd i benderfyniad.

Ac roedd wedi gwneud hynny, gan adael ei ôl, nid yn unig ar y cerrig beddau yn y fynwent a oedd wedi gwyro i'r dde neu i'r aswy wrth i'r tir o danynt symud a setlo, ond hefyd ar waliau cedyrn y capel o briddfeini a ddaeth o dy'r ffan ar ben y gwaith, 'slawer dydd.

Troi'n ôl i Fwlch y Clawdd Du a cherdded tua'r gogledd i olwg Llyn Cerrig Llwydion Uchaf, yna, heb golli uchder, gwyro fymryn i'r dde i gyrraedd Llyn Cerrig Llwydion Isaf.

Fe fyddai bron â dotio ar y cwysi a drôi'r aradr, a theimlech ei fod yn rhan o'r cae, fod iddo wreiddiau yn anwylo'r âr yr oedd yn gwyro trosto.

Awdurdodwyd Cyfreithiwr y Cyngor i gadarnhau Gorchmynion gwyro i'r dyfodol lle na dderbynnir gwrthwynebiadau iddynt ond eu bod fel arall i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.