Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwythiennau

gwythiennau

Nid oedd yn rhaid i'w lygaid duon ei hanwesu ac i'w gyhyrau wingo dan ei groen tywyll pan fyddai'n rhwydo na theimlai hi ei gwaed yn byrlymu yn ei gwythiennau a'i chalon yn chwyddo.

Ac os oedd gwythiennau'r Fraslyd, y Fowr a'r Bumcwart a'r lleill i gyd yn dipyn sicrach na thywod, eto, o'u twrio a'u tynnu oddi yno roedd y tir uwchben yn siwr o symud ryw fymryn.

Nid gwaed ei nain a ffrydiau yn ei gwythiennau hi, ond gwaed ei mam, y fam honno na fynnai ei nain sôn amdani wrthi am mai un wyllt oedd hi.

Pe gofynnech i un o hen lowyr dyffryn Aman am leoliad un o'r gwythiennau hyn fe ddywedai wrthych ar unwaith ei bod yn brigo i'r wyneb fan hyn, yn diflannu fan draw ac yn ymddangos drachefn mewn man arall.

Enwau ar yr haenau o lo sy'n britho'r ardal ydynt, wrth gwrs, ac er bod y mwyafrif llethol o lofeydd y gymdogaeth bellach wedi cau, y mae enwau'r gwythiennau glo yn dal ar dafod leferydd glowyr y fro.

Un porffor, a gwythiennau sidanaidd yn aberu trwy'r cotwm.

Oddi allan, mae tair sepal fawr binc golau neu liw rhosyn â gwythiennau gwyrdd arnynt.

Blasus oedd y peint uwd yn y bore a'i gynhesrwydd yn treiddio trwy'r gwythiennau a'r ymennydd, ac amheuthun oedd y cig lledr, y pytatws llygredig a'r pwding reis dyfrllyd.