Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyw

gwyw

'Ni cherddaf....Ni chwarddaf' yn dyfnhau negyddiaeth y nos i'r bardd yn ddwys iawn, a hynny'n cael ei datrys braidd yn gynganeddus mewn bodlonrwydd anuniongyrchol 'draen...heb wrid y rhos,' 'gweaf....gwyw'.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.