Os bydd pobl yn newid eu ffordd o ddefnyddio'r tir a draenir gan yr afon (dalgylch afon), gall ffyrdd y dyodiad newid, gan effeithio ar gydbwysedd y bobl a'r afon.
Mae'r chwe mis ers ethol swyddogion presennol y grwp wedi bod yn brysur, gweithgar a chyffrous iawn, gyda'r gwaith yn gydbwysedd o lunio dogfennau a strategaeth polisi, ac o ymgyrchu a gweithredu uniongyrchol.
Cloriannwyd yr ymgeiswyr nid fel unigolion ond fel timau a rhaid oedd wrth gydbwysedd a chydweithio os am ddod i'r brig.
'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.
Mae'n glod i Dr Morgan ei fod yn crynhoi'r dystiolaeth ar y pen hwn gyda'r fath gydbwysedd.
Ond wrth gwrs adlewyrchiad o wrthdaro cymdeithasol ac o gydbwysedd grym o fewn y gymdeithas honno ydi pob gwasg a phob cyfrwng torfol.