Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyddfau

gyddfau

Yn wir, âi allan o'i ffordd i 'w swcro drwy ddod â chanlyniadau adref gyda hi, canlyniadau a gawsai yn y dafarn lle byddai'r gynnau mawr yn iro'u gyddfau ar gyfer y brif unawd.

Yna rhedasom i'r tŷ a'n hanadl yn ein gyddfau i ddweud "Mae'r dynion wedi dod â'r elor i moyn yr angladd!" Yr oeddwn wedi dychryn ac wedi gwylltu, yn methu aros yn y tŷ ond yn ofni mynd allan rhag ofn bod yr elor wedi dod i'm cario innau i'r bedd!

Yn ôl tystiolaeth un meddyg y bu+m i'n siarad â hi, roedd rhai mamau wedi anobeithio ac wedi troi cyrn gyddfau'u plant er mwyn arbed eu maeth a'u nerth eu hunain.

Mewn gwirionedd, fe wnâi'r dalwr waith dau ddyn, oblegid nid yn unig yr oedd yn trin y platiau yr ochr arall i'r rowls, ond yr oedd yn rhaid iddo hefyd iro gyddfau'r rowls, a hynny'n gyson trwy gydol ei dwrn gwaith.

Roedden nhw'n gwisgo crysau llac gwyn at y ben-lin a chadwyn aur am eu gyddfau.

Dyna'r creaduriaid llonydd yn cnoi'r cil yn dawel tra byddwch yn datod y cadwyni o'u gyddfau.

Ar ôl i'r darnau priodol gael eu sychu yn yr haul, bydd gwragedd dethol o'r llwyth yn eu gwisgo o amgylch eu gyddfau - ac yn cael blaenoriaeth wrth fynd ar ôl dwr.

Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch tywod y de lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno.