Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gydio

gydio

Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

Tafla'r dîs i weld a wyt yn llwyddo i gydio ynddi.

Gwell oedd ganddo gydio mewn llyfr nag yng nghorn yr aradr; trin, diwyllio meddwl na thrin daear, a hau gwybodaeth na hau ceirch a gwenith.

Roedd yna ryw rym yn peri i Geraint gydio'n dynn â'i ddwy law yn un o'r barrau haearn oedd o'i flaen.

Maen nhw'n debyg i ddyn ar fin boddi yn chwilio am rwbath i gydio ynddo fo.

Felly mae'n chwilio am fachyn i gydio ynddo ac mae'n gyfleus iddo addoli Gwylan (yn hytrach na'i charu) a chofleidio'i daliadau - dros dro: wedi'r cyfan y daliadau hynny a rydd iddo'r cryfder i ddirwyn ei ddyweddi%ad â Lisabeth i ben a gwrthryfela yn erbyn diogelwch diantur ei fagwraeth.

Y mae'n anodd credu nad oedd y canser, a oedd yn prysur gydio yn ei ymysgaroedd, hefyd wedi effeithio ar ei iechyd yn gyffredinol ac wedi pylu ei gyneddfau beirniadol dros y misoedd hyn.

Yr oedd peth brys i'w gael i gydio yn ei waith rhag i fusnes y Swyddfa ddioddef.

Bodlonant ar gydio'r tebyg.

Doedd gen i ddim awydd trafod fy mywyd ar ganol y rhodfa fel hyn, ond er mwyn heddwch fe grybwyllais yr ymddeol a'r fflat, a dyma hithau'n cydio yn y wybodaeth fel octopws yn ymestyn un o'i freichiau i gydio mewn ysglyfaeth.

Y tro y cafodd ei chipio gan sipsiwn, y tro y rhwystrodd geffyl gwyllt drwy gydio yn un o'r afwynau a chael ei llusgo am hanner milltir - roeddem yn eu credu fel efengyl.

Mae rhai o aelodau un o brif grwpiaur 90au cynnar yn ail-gydio yn yr gitars.

Gwenent hwythau hefyd, er bod ambell i wg weithiau pan gâi rhywun arall chwarae ran Mair yn nrama'r Geni, ond ciliai'r wg wrth i'r hen ŵr gydio yn eu dwylo wrth gerdded o'r perfformiad.

Gyda'r Stryd mae rhywun yn medru cymryd saib am gyfnodau go faith ac ail-gydio'n hawdd yn y stori, gan mai yn ara bach mae cymeriadau'n newid.

Roedd rhai wedi llwyddo i gydio yn rhywfaint o'u heiddo cyn ffoi; roedd eraill yn waglaw ac wedi cerdded yr holl ffordd.

Yn y cyfarfodydd hyn daeth y geiriau a ganlyn yn gyfarwydd: Daeth y geiriau'n gyfarwydd i bob un wrth i gylch ohonom gydio yn nwylo'n gilydd i'w canu.

Y peryg yw, y bydd yntau hefyd yn methu a gwrthsefyll y demtasiwn i gydio yng nghynffon yr un teigr a'i fam.

Bydd yn ail-gydio yn ei bartneriaeth â Paul Jewell ai is-reolwr efo Cymru, Peter Shreeves.

Sylwodd y ddau fynach arno'n syth pan alwodd o arnyn nhw ond bu'n rhaid i un gydio ym mhenelin y Priodor.