Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gydiol

gydiol

Ar y llaw arall, gallai ddadlau na ddylai Undodwr gwerth ei halen fod hebddo, nid yn unig oherwydd ei waith personol, ond am ei fod yn ddolen gydiol rhwng aelodau gwasgaredig a llinyn bywyd y mudiad.

Mudiad yw hwn, yn ymgorffori Undeb y Cymry ar Wasgar a sefydlwyd yn 1948, sy'n creu a chynnal dolen gydiol rhwng Cymru a phobl o drâs Gymreig a chyfeillion Cymru ym mhedwar ban y byd.

Mae dolen gydiol rhwng pob un ac mae'r geiriau i gyd wedi creu patrwm arbennig.

Yr oedd John Edward Lloyd yn Rhydychen pan aeth Owen Edwards yno gyntaf, yn ddolen gydiol rhyngom ni a'r to o'r blaen; a tho pur hynod oedd hwnnw, yn cynnwys RE Morris, a John Owen, a Robert Parry ac Edmund Wynne Parry, a WS Jones a TF Roberts.

A chan ei bod yn oes o gymaint busnes a chynifer pethau, brinned ac mor lledrithiol yw ein hatgof wedyn am bobl fel, pan glywn ba ddydd fod Hwn a hwn wedi mynd, y cwbl a olyga inni yw fod rhyw ddolen gydiol hwylus â rhyw un o'n perwylion wedi peidio â bod, ac ar unwaith gofynnwn: