Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gydlynu

gydlynu

Wrth gwrs y bydd yna gyrff canolog i gydlynu polisi a chyllidebau, ond cyrff i ateb gofynion y cymunedau fydd rheiny.

Bu'r pwyllgorau rhanbarth yn weithredol ym Morgannwg Ganol, De Morgannwg a De-ddwyrain Dyfed / Gorllewin Morgannwg, gan gydlynu gweithgareddau'r canghennau lleol.

Ein dadl syml yw y dylai'r Cynulliad wneud popeth o fewn ei allu i gydlynu a symbylu a gweithredu'r fath strategaeth. Petai'r Cynulliad yn rhoi neges glir a phendant o'r dechrau ei fod yn gorff sy'n gosod pwyslais creiddiol ar y Gymraeg byddai hynny yn sicr o gael effaith gadarnhaol eang ar bob math o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Er mwyn sicrhau llwyddiant ac effeithiolrwydd y Polisi Dwyieithog o'r diwrnod cyntaf, galwn ar y Swyddfa Gymreig i sefydlu Grwp Tasg i gydlynu ymdrechion a syniadau er mwyn ymbaratoi at gyflwyno Polisi Dwyieithog yn y Cynulliad.