Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gydnabyddedig

gydnabyddedig

Yn yr un modd, yn Gaeaf yn Nrws y Coed, a'r eira yn blanced wen yn gorchuddio'r byd, gwelir ambell i ddafad yn crafu am welltyn glas ac yn llwyddo i gyfleu y ddelwedd gydnabyddedig o'r ddelfryd o'r gaeaf.

Crwydrai'r gweision dibriod dros y wlad yn y nos ac y mae'n ffaith gydnabyddedig fod y morwynion yn eu derbyn i'r tai.

Y mae defnydd ohoni wedi'i chyfyngu i'r llafar gan nad oes iddi ffurf ysgrifenedig gydnabyddedig na gramadeg sustematig, na dim o'r offer ieithyddol ychwanegol fyddai ei angen i'w haddasu'n iaith ar gyfer addysg, gweinyddiaeth a defnydd swyddogol ffurfiol.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

bydd y ganolfan yn asesu'r galw, yn datblygu deunydd dysgu newydd, yn gweithio gyda darlithwyr a hyfforddwyr, yn sicrhau dulliau hyblyg o ddysgu ac yn hyrwyddo darpariaeth i gyd o fewn y fframwaith gydnabyddedig.

Golygai disgyblaeth deuluol gydnabyddedig fod gan bob uned o'r fath gyfraniad pendant i'w wneud yn y gymdeithas.