Drwy weithio mewn partneriaeth ag amrediad o sefydliadau mae BBC Cymru yn uchelgeisiol yn ei gynlluniau i danio dychymyg y wlad a dod â dysgu i bob sector o'r gymuned drwy ei fenter dysgu gydol oes.
Ond drwy gydol y nofel hon cawn ein paratoi'n ofalus gam wrth gam ar gyfer tro%edigaeth ysbrydol Harri.
Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.
Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.
Mae nifer o'r rhaglenni hyn yn adlewyrchu cryfder BBC Cymru o ran newyddiaduraeth materion cyfoes, ac roedd hyn yn amlwg trwy gydol y flwyddyn gyda chyfraniadau i ddarllediadau ar radio a theledu o ddigwyddiadau megis yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd, a phrif raglenni dogfen ar y teledu megis Place of Safety, am yr ymchwiliad i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru, ac In The Red Corner, a ddilynodd gystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.
Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.
mae'r Coleg Digidol yn ddarpariaeth newydd a fydd yn cyfuno gwasanaethau, profiad a sgiliau addysgwyr, hyfforddwyr, byd busnes a diwydiant, S4C a BBC Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth dysgu gydol-oes ardderchog i wylwyr Cymru.
Trwy gydol yr amser yr oedd aleodau'r Gymdeithas ledled Cymru yn gweithio'n galed o ddydd i ddydd yn trefnu adloniant Cymraeg, yn cynnal cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr ac yn hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu hardaloedd eu hunain.
Bydd miwsig Calypso i lonni ei feddwl drwy gydol y dydd, o dan y palmwydd, ar y traeth, yn y pwll nofio, yn wir, lle bynnag y bo.
Mae'n amlwg mai hollalluog ac anfeidrol fyddai'r unben hwnnw a allai gyflawni'r holl oruchwylion ar ei ben ei hun, gan lwyddo i wneud hynny'n ddidragwydd ddydd ar ôl dydd drwy gydol y flwyddyn.
Mae arni griw o ddeuddeg yn gweithio bron trwy gydol y flwyddyn.
Trwy gydol ei oes fe ddioddefodd o'r salwch.
Ben arall y cae mae'n anodd cofio Kevin Dearden yn gwneud unrhyw arbediad o bwys drwy gydol yr awr a hanner.
Nodweddid ef trwy gydol ei oes gan ymdeimlad dwfn a deallus tuag at iaith a llên Cymru.
Ond roedd y byd hwn yn chwalu cyn i mi gael fy ngeni, ac yn chwilfriwio'n gynyddol gyflym trwy gydol y tridegau, y pedwardegau a'r pumdegau.
Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.
Ymdrechwn i gynnig rhaglenni gwahanol gydol yr amser megis Te Mawr, cyngerdd canu gwerin, Gwyl Ffraid/Santes-Dwynwen, a phicnic i gydfynd a'r Gymanfa a Gwyl Dewi-Sant.
Gydol y rhaglen cafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan y Dr Geraint Jenkins ac Elwyn Edwards, y ddau ohonynt yn cael eu disgrifio fel awduron.
Roedd y Siampên yn llifo am ddim drwyr nos ac fel arfer buaswn wedi bod yn fy seithfed nef - ond yn ller bybli sudd oren a gefais i gydol y noson.
Yn wir, trwy gydol fy mywyd bu+m i yn fwy o awdures Americanaidd nag o awdures Brydeinig.
Er nad yw'r machlud mor ysblennydd a hynny mewn ardaloedd o ddiffeithwch mae'n aml yn gorchuddio'r tir dan glogyn coch wrth i belydrau'r haul ddal y gronynnau o dywod sy'n chwythu yn yr awel.Trwy gydol yr oesoedd bu'r haul a'i ddylanwad enfawr ar fywyd yn destun diddordeb mawr i ddyn.
R'yn ni'n trio gwitho'n galed a joio hefyd." Mae Rhys Evans sy'n actio'r prif gymeriad ar y llwyfan bron trwy gydol y perfformiad - dyna pam yr aeth Laurel Davies am ddisgybl chweched dosbarth ar gyfer y gwaith.
Mewn gwirionedd, fe wnâi'r dalwr waith dau ddyn, oblegid nid yn unig yr oedd yn trin y platiau yr ochr arall i'r rowls, ond yr oedd yn rhaid iddo hefyd iro gyddfau'r rowls, a hynny'n gyson trwy gydol ei dwrn gwaith.
Roedd mil o gynulleidfa yn gallu gweld yr Wyl gydol y dydd.
Trwy gydol yr amser mae'r defnydd a wneir o'r iaith a ddaw i'w glyw yn ymwneud â phethau ac â digwyddiadau go iawn.
Roedd Mrs Williams yn enedigol o Drefriw a glynnodd yn ei hardal gydol ei hoes.
A thrwy gydol y flwyddyn 1971 bu erthyglau nerthol y misolyn Barn yn gefn mawr i'r frwydr hon gan Gymdeithas yr Iaith dros urddas dyn yng Nghymru.
Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r Arolwg Perfformiad gydol y flwyddyn wedi dangos yn glir i'r Cyngor Darlledu bod gwneuthurwyr rhaglenni BBC Cymru, a'r rhai sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol, wedi darparu cyfoeth o raglenni radio a theledu a fu'n berthnasol ac adloniadol i'r gynulleidfa sy'n gwrando ac yn gwylio.
Cafwyd canu da drwy gydol y dydd.
Wrth edrych draw tua Betws y Coed a Dyffryn Lledr gwelwn fod y niwl wedi aros yn y dyffrynnoedd gydol y dydd gan adael y copaon fel llongau yn llygad yr haul.
Fe'n hogir i feddwl yn ogystal ag awchu am wybod mwy drwy gydol y gyfrol.
Dau'n unig ohonynt a fu mewn bodolaeth trwy gydol y ganrif, sef yr Academi Annibynnol a'r Academi Bresbyteraidd.
Drwy gydol ei gyfnod fel hyfforddwr Cymru, mae Henry wedi cadw at yr un cnewyllyn o chwaraewyr.
Ar dudalennau'r Llenor, gydol y dauddegau a'r tridegau, cynhaliwyd trafodaeth ar Hanes Cymru, hanfodion Cymreictod a pherthynas Cymru ag Ewrop rhwng Saunders Lewis ac Ambrose Bebb ar y naill law, y ddeheulaw, a W. J. Gruffydd ac R. T. Jenkins, ar yr aswy.
Yr Eglwys oedd prif ffynhonnell celfyddyd weledol Cymru drwy gydol yr Oesoedd Canol.
Ond rhagdybir y cysylltiad rhwng aberth, gwaed a maddeuant trwy gydol yr Hen Destament.
Yn union fel y daeth hynny'n sylfaen ffydd Israel trwy gydol ei hanes diweddarach, mynnai'r Cristionogion mai trwy Iesu y cyflawnodd Duw waredigaeth ei bobl maes o law.
Yn ogystal â'r bloc profiad ysgol, treulir rhywfaint o amser mewn ysgolion lleol trwy gydol y flwyddyn.
Ma nhw di bod wrthin ddiwyd yn hyrwyddor mini-albym newydd, ac yng nghanol y gigs i gyd, daeth y bois i mewn i'r stiwdio yma ym Mrynmeirion i recordio sesiwn acwstic 3 cân - ac maen swnion WYCH. mae'r traciau i'w clywed ar Gang Bangor gydol yr wythnos, a bydd cyfle i ennill copiau o'r CD wedi eu harwyddo.
Gellid dadlau mai dyma'r cyfnod mwyaf allweddol ac effeithiol o ran gosod sylfeini a fydd yn sicrhau fod plant yn gwbl rugl ddwyieithog ac yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gydol eu hoes.
Dwi'n blês dros ben i ni gadw'r llinell amddiffyn yn gadarn drwy gydol y gêm.
Cyfarfu ynadon y dref i drefnu iddynt hebrwng y milwyr drwy gydol y dydd; penderfynasant ymhellach gau tafarnau yng nghyffiniau'r orsaf rheilffordd am ddau o'r gloch y prynhawn, a'r gweddill yn ardaloedd eraill y dref am naw o'r gloch y nos.
Fel ardaloedd eraill Cymru bu'r faled yn arbennig o boblogaidd yn nyffryn Aman drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae ei ymddygiad dirwestol a chyfiawn yn gosod Robert Pugh y Trawscoed - ei gymydog agosaf - yn y cysgod gydol y nofel o ran synnwyr cyfiawnder a phob dim arall.
Ond trwy gydol ambell noson clywai Wil nadu'r ci o wahanol gaeau, rhyw udo ymarhous a dolefus, ac yna cyfarthiadau caled ac afiach.
Mae chwaraewr canol-cae Wrecsam, Wayne Phillips, wedi bod yn gefnogwr Manchester United gydol ei oes.
Dau hen glogwyn diwerth a fu'n feini trarngwydd--yn llythrennol felly--i'r oruchwyliaeth trwy gydol y blynyddoedd oedd 'Y Negro' yn adran Califomia a'r Diffwys, a'r 'Ceiliog Mawr' yn adran Wellington a Victoria.
Trwy gydol y cyfarfod hwnnw nid ynganodd neb yr un gair o Gymraeg ond myfi.
Parhaodd hyn trwy gydol y rhyfel, ond gyda hyn o ddirywiad yn y sefyllfa: perswadiwyd glowyr Cymru i fynd i'r lluoedd arfog wrth yr ugeiniau o filoedd a chymerwyd eu lle gan Saeson a mewnfudwyr eraill.
Ni wyrodd oddi wrthynt gydol ei oes.
Bu'r wlad honno'n eithriadol deyrngar i Eglwys Rufain yn y bymthegfed ganrif ac arhosodd felly trwy gydol Oes y Diwygiad.
Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.
Rhoddwyd sylw rheolaidd i bêl-droed Cymru gydol y tymor drwy gyfrwng gemau byw yng Nghwpan Premier Cymru ac adroddiadau ar Gynghrair Cymru.
'Dwedodd fod y clwb wedi bod yn colli arian drwy gydol y tymor,' meddai Huw Jenkins, cyn-chwaraewr sydd hefyd yn gyfrifol am safle'r clwb ar y we.
Mae'r Coleg Digidol yn ddarpariaeth newydd a fydd yn cyfuno gwasanaethau, profiad a sgiliau addysgwyr, hyfforddwyr, byd busnes a diwydiant, S4C a BBC Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth "dysgu gydol-oes" ardderchog i wylwyr Cymru.
Bu llu o ffermwyr ar drywydd Ap drwy gydol y misoedd hyn, ond teimlai Wil Dafis mai ef yn anad neb bellach oedd fwyaf o ddifri.
Gydol ei oes gyhoeddus, hefyd, dadleuodd bod anufudd-dod dinesig yn anorfod yn y frwydr genedlaethol yng Nghymru.
Drwy gydol y blynyddoedd hyn yr oedd sir Fynwy yng nghanol tanbeidrwydd y dadlau; a hynny, nid yn unig oherwydd maint y boblogaeth, ei symudolrwydd a'r broblem fawr o ddarparu addysg ar ei chyfer, ond hefyd oherwydd presenoldeb carfan gref o weinidogion amlwg a llafar iawn eu barn.
Detholiad yn unig o ymwneud y bobl hyn ai gilydd a ddangosir ar y teledu ond gall y sawl sydd â digon o amser a modd, dalu £70 y dydd am eu gwylio gydol yr amser ar y rhyngwe.
Rhywbeth hardd, dyfeisgar, braf i edrych arno trwy gydol y gyda'r nos.
'Roedd y gân yn ffefryn gan David Ellis drwy gydol yr amser y bu yn Salonica.'
Drwy gydol y dydd bowliodd yn gyson a chywir.
A hithau'n goeden fythwyrdd, mae batri hon yn rhedeg gydol y gaeaf.
Meddai ar bob dawn sy'n angenrheidiol i'r grefft, ac nid oes amheuaeth na fwynhaodd y gwaith drwy gydol ei fywyd, er cymaint y cyfrifoldeb a'r gofid.
A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.
Mae'r trigolion, Mrs Jones, Mr Morris, Miss Parry a Mr Robaits, yn siarad gydol yr amser, ond dydyn nhw'n dweud dim.
Wedi llafurio gydol y bore methodd bowlwyr Lloegr a chipior un wiced.
Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.
Tra'r oeddwn yno gryn deirawr un pnawn yr oedd cwsmer arall yn cysgu'n sownd yn ei gadair gydol yr amser.
Bydd S4C mewn cysylltiad a Chaerfyrddin a chyngerdd arall yng Nghaernarfon gydol y noson.
Ar fore heulog braf codwyd baner y Ddraig Goch y tu allan i'r senedd-dy yn dilyn caniatad gan Lefarydd y senedd, y Gwir Anrhydeddus Jonathan Hunt, i'r faner chwifio yno gydol y diwrnod.
Hoffent hefyd ddiolch i ferched y gegin am eu diwallu a chawl, te a brechdannau, drwy gydol y dydd, ac hefyd am drefnu lluniaeth ar gyfer y cyhoedd.
Bydd camerau a chyflwynwyr BBC Cymru hefyd i'w gweld mewn trefi ar hyd a lled Cymru, yn cadw llygad ar y gweithgareddau codi arian lleol, ac yn dod a'r newyddion diweddaraf drwy gydol y nos.