Brwydrodd rhai o aelodau seneddol Cymru i gael Mesur Iaith drwy'r Senedd, er mwyn sefydlu'r egwyddor fod y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd.
Mae'n dilyn felly eu bod nhw'n gydradd fel bodau dynol.
Clybiau Llangefni a Bodedern oedd yn gydradd drydedd efo Clwb Dwyran yn bumed a Llangoed yn chweched.
Dim ond pan fydd staff yn edrych ar ddefnyddwyr y gwasanaeth fel pobl gydradd a'u trin efo'r parch y mae pobl cydradd yn ei haeddu y byddant yn datblygu eu hunan-werth.
Yr hyn y mae'n ceisio ei fynegi yw nad yw trin dynion a merched yn gydradd yn golygu eu trin yr un fath.
Pan ddeuai'r rheolwr wyneb yn wyneb â Phil gellid meddwl fod dau gydradd wedi cyfarfod â'i gilydd, a pheth cwbl haeddiannol oedd barn y rheolwr mai Phil oedd y gweithiwr gorau yn y gwaith.
Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad.
Rydym yn galw ar y llywodraeth i drin y Gymraeg yn gydradd â phynciau eraill pwysig a chyflwyno deddfwriaeth newydd sydd yn fwy addas i'r oes hon.
DYLAI'R Gymraeg gael ei thrin yn gydradd â'r Saesneg yn holl ysgolion Cymru.
Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.