Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfaddef

gyfaddef

Fel un a dreiodd ei law gyda'r gwaith hwn, rhaid i mi gyfaddef na wn i sut oedd llanc ar ei brifiant yn gallu gwneud gwaith mor arteithiol o galed â gweithio ffwrnais.

Gwyddwn ei ystyr ond rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn wedi sylweddoli mai deshabille o'r Ffrangeg oedd y gair.

'Waeth i mi gyfaddef ddim, yr wyf i'n trysori'r galwadau ffôn yna lawn cymaint ag y trysoraf ei llythyron, achos yr oeddynt yn arddangos angerdd.

Ond bu rhaid iddo gyfaddef wrtho'i hun, yn anewyllysgar ddigon, fod golwg eithaf difater ar bawb - hyd yn oed y plant - a oedd yn y cerbyd hir, a'i galon ef yn carlamu gan gyffro eiddgar: a pharhau i guro'n gyflym a wnai pan gyrhaeddodd Paddington.

A siarad yn bersonol am funud bach, mae'n rhaid i mi gyfaddef, er enghraifft, na fedraf gael fawr o hwyl ar vers libre Gymraeg.

Roedd Carol wedi bod yn gyrru ar hyd y draffordd am dri chwarter awr cyn iddi gyfaddef wrthi'i hun mai Emyr oedd yn iawn ac mai ffolineb oedd ymgymryd â'r fath siwrnai hebddo fo.

Gwyddwn eu bod yn cuddio pethau oddi wrthym ni, y plant, ond ni pheidias yn fy ymchwil i ddod at y ffeithiau, a rhaid i mi gyfaddef i mi gael cryn gymorth gan fy modryb, Bopa Jane, chwaer fy mam, a oedd yn ddibynadwy ei gwybodaeth ac yn ddiflewyn ar dafod yn ei datguddiadau o'r ffeithiau.

Mae Doreen a Hazel yn ei hannog i gyfaddef y gwir, ond mae Sab yn benderfynol o roi tro arni.

Mae'n disgrifio Ceri Richards fel 'yr artist Cymreig', ond gan gyfaddef na all roi ei fys ar yr hyn sy'n Gymreig yn ei waith, fwy nag yn achos arwr arall, David Jones.

Rhaid i ti gyfaddef iddi geisio ein brifo ni ym mhob ffordd bosib: ninnau'n ceisio bod yn garedig wrthi, yn ei gwahodd hi yma, yn mynd a hi allan am fwyd, yn ceisio ymddwyn yn war ymhob ffordd, a dangos fod modd i dderbyn y pethau hyn ond ymddwyn yn synhwyrol.

Rhaid i fi gyfaddef, fe fwynheiais mâs draw.

Byddai'n rhaid iddi hi gyfaddef, pe gofynnid iddi, fod y gwaith ymchwil yma'n llawer mwy cymhleth nag a feddyliai.

Rhaid i mi gyfaddef rwyn cytuno â Javed.

Efallai na fydd neb yn cytuno, ond mae'n rhaid i ni gyfaddef fod Just Tonight yn ein hatgoffa o Catatonia i ryw raddau.

Nid yw'n syndod, efallai, fod Kennedy a'i gefnogwyr wedi ceisio cuddio'r ffaith ei fod yn dioddef o'r afiechyd hwn, er iddynt fod yn ddigon parod i gyfaddef ei fod yn dioddef llawer gan nam poenus yn ei gefn.

Evans ac yntau n cystadlu'n erbyn ei gilydd o ran hwyl, ac 'rwy'n meddwl iddo gyfaddef mai'r Llwyd oedd y mwyaf llwyddiannus).

Rhaid imi gyfaddef mai rhyw dueddu i ochri efor Tywysog Charles yr ydw i yn y ddadl planhigion genynnol yma.

Ychydig iawn o bobl sy'n barod i gyfaddef bod y pethau hyn yn 'digwydd yma', mai Almaenwyr cyffredin, nid gwehilion ifanc, sy'n euog, mai cynnyrch y gymdeithas Almaenig ydynt, a'n bod ni lawn mor gyfrifol am eu hymddygiad hwy ag am ein hymddygiad ni ein hunain.

Yr oedd yn llawenydd i mi eich bod wedi darganfod gwreiddiol Scren Heddwch Islwyn, rhaid imi gyfaddef na wyddwn i ddim am Jane Simpson ac nid oes gair amdani yn y Biographical Dictionary sydd gennyf.

ond gan gyfaddef 'mod i mor unllygeidiog ag unrhyw golofnydd enwadol yn yr oes aur.

Rhaid imi gyfaddef, fod y demtasiwn yn gref a bu bron imi wneud rhywbeth eithafol am gwallt cyn bwrw i barti pen-blwydd fy ffrind Sophie yn Llundain dros y penwythnos.

Rhaid i mi gyfaddef fy nhwpdra, 'doedd gennyf ddim syniad pwy oedd Michael Jackson nes i mi weld ei lun dro ar ôl tro ar y teledu.

Mae yma nifer da o'r dyfyniadau mwyaf arferedig yn yr iaith Gymraeg, a rhaid imi gyfaddef imi gael fy synnu wrth weld enwau'r rhai a'u rhoes yno: dynion a berchid yn fawr ac a gyfrifid yn 'rhywun' yng ngolwg y cyhoedd.

Nid fod Judith yn dioddef gormod o segurdod, er iddi gyfaddef fod y ffaith iddi fyw yn Arfon wledig, mor bell o brysurdeb cyfryngol y brifddinas, yn eithaf llestair.

Bu'n rhaid iddo gyfaddef mai ef oedd y bachgen a gafodd yr Afal Aur, a chollodd y crwydryn arno'i hun yn lân o glywed hynny.

Waeth i mi gyfaddef na pheidio, tipyn o fabi oeddwn i, o ystyried f'oed.

Ond mae'n rhaid imi gyfaddef na welodd neb yr enw bondigrybwyll hwnnw mewn unrhyw daflen byth wedyn chwaith.

Ie'n wir, os ydi'r llenor o Eingl-Gymro'n onest ag ef ei hun, bydd yn rhaid iddo gyfaddef mai mewn iaith estron y mae'n sgrifennu.

'Dydw i'n hidio dim am ei flas o 'chwaith, er fy mod i'n barod i gyfaddef fod byd o wahaniaeth rhwng cegiad o ddþr tap a chegiad o dan y pistyll bach ym mhen ucha'r cae.

Er gwaethaf rhybuddion Robin, doedd Rhian ddim wedi rhag-weld pa mor gyndyn y byddai'r sefydliad i gyfaddef nad oedd cyfiawnder.

Yng nhgwrs yr achos hwnnw bu raid i Forgan gyfaddef ei fod yn mynd o gwmpas gyda dagr neu bistol dan ei gasog rhag ofn i Evan Meredith a'i bliad ymosod arno, a'i fod hefyd unwaith wedi rhoi a 'little flick or pat upon the chin or cheek' i'w fam-yng-nghyfraith pan oedd hi'n annog ei weision i ymosod ar rai Evan Meredith; ond fe wadodd yn bendant holl gyhuddiadau mwy sylweddol Meredith, a'm barn i am eu gwerth yw ei fod wedi ymddwyn trwy'r holl helynt gyda chryn ymatal a graslonrwydd, er ei bod yn gwbl amlwg hefyd fod elfen gref o ystyfnigrwydd yn perthyn iddo.

Mae Enid yn syrffedu ar y bywyd hwn - 'nid oes dim gasach gennyf na hynny', meddai - ond ni allai gyfaddef hynny i Geraint ac ni all ychwaith adrodd iddo anesmwythyd a beirniadaeth ei wŷr.

Er mai o'm hanfodd y dywedaf hyn, rhaid imi gyfaddef nad oes dim gwell dan haul nefol na gþr ar y Dôl i ddangos nerth a gwydnwch priodas ac i ddangos partneriaeth dda.

Mae Bwrdd Criced De Affrica wedi cyhoeddi na fydd y batiwr agoriadol Herschelle Gibbs yn y garfan ar gyfer y daith i Sri Lanka fis nesa ar ôl i Gibbs gyfaddef ei fod o wedi derbyn cynnig o $15,000 gan ei gapten Hansi Cronje i sgorio llai nag ugain o rediadau mewn gem undydd yn India.

Ond rhaid i mi gyfaddef on in ame eu cymeriad nhw ond fe ddangoson nhw ddigon o gymeriad neithiwr, yn enwedig pan on nhw 2 - 0 ar ei hôl hi.