Ni ddefnyddiai lein ond i gychwyn gwal neu adeilad er mwyn cael y mesur a'r sylfaen--a dyna hi wedyn; dibynnai'n gyfangwbl ar ei Iygad a synnwyr bawd a byddai pob gwal yn berffaith union.
Mae'r ffordd o ateb y cwestiynau hyn wedi newid yn gyfangwbl yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Fe'n sobreiddiwyd braidd o sylweddoli na fu'r newid yn gyfangwbl er gwell er gwaethaf datblygiadau technegol a oedd y tu draw i ddychymyg cenhedlaeth Gwyn Erfyl o wneuthurwyr rhaglenni.
Dywed rhai mae pendraw'r broses a argymhellir fydd dileu'r rheithgor yn gyfangwbl.
Roeddwn bron a cholli fy mholion sgio a gollwng y lifft yn gyfangwbl o 'ngafael.
Peidiwch a'i adael yn gyfangwbl yn nwylo'r Cyfarwyddwr Artistig.
Hyd yn oed yn yr oes pan fu'r addysg yn gyfangwbl Saesneg, rhoddai'r ysgol i'r disgyblion yr ymdeimlad o berthyn ac aethant i'r ysgol uwchradd fel 'criw' y pentref.
Pam yr oedd yn rhaid i'r hen euogrwydd hwnnw ddod trosti eto'n byliau'r dyddiau hyn wrth feddwl mor wahanol yr edrychai'r lle heddiw i'r tyddyn hir, unllawr, a gofiai'n groten - y "tyddyn Cymreig?" Doedd dim rheswm yn y byd iddi hi orfod ysgwyddo'r plwc cydwybod yn gyfangwbl ei hun.
Ond collir golwg ar natur gyfangwbl ddiwinyddol y syniad Iddewig wrth ddilyn y trywydd hwn, gan mai'r datguddiad o Dduw yn hytrach nag unrhyw falchder cenedlaethol a orffwys y tu ôl iddo.
Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.
Mae'r mawn yn raddol godi tu ucha i'r llyn ac ymhen amser fe allai lenwi'r llyn yn gyfangwbl.
Os am ymlacio'n llwyr, gan ddianc yn gyfangwbl o reolaeth y byd o'i chwmpas, aiff Judith o dan y tonnau gwyllt.
Yn gyfangwbl i'r gwrthwyneb gyda Meleri Wyn James.
Y mae PDAG yn bod ers pum mlynedd oherwydd fod pobl Cymru yn awyddus i weld addysg Gymraeg yn ffynnu ac wedi galw am sefydlu corff i'w datblygu, corff annibynnol i'w gyllido'n gyfangwbl gan Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru.
Oes modd anwybyddu'r Nadolig fasnachol yn gyfangwbl?