Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfanrwydd

gyfanrwydd

Hynny yw, yn ein profiad beunyddiol, cyn inni roi ein cyneddfau gwyddonol ar waith, yr ydym yn gweld y byd yn ei gyfanrwydd cyfoethog.

Cydnabuwyd ysgolheictod yn ei gyfanrwydd yn un o'r angenrheidiau pennaf yn natblygiad y dosbarth tirol, a'r prif gwrs astudiaeth a gymeradwywyd yn ôl traddodiad oedd rhethreg, mathemateg, seryddiaeth, barddoniaeth, prydyddiaeth, hanes, a gramadeg.

O fewn pob thema ceir cyfres o benodau sy'n rhedeg yn gronolegol, ac mae modd i'r athro a fyn ddelio â chyfnod yn ei gyfanrwydd ddethol y penodau perthnasol o fewn pob thema.

Cynrychiolodd y drafodaeth ynglyn â'r Six O'Clock News y ffordd agored a chyfrifol y mae'r BBC yn ei gyfanrwydd yn cydnabod y newidiadau sy'n rhaid eu gwneud wrth gyflwyno'r newyddion.

Trwy ystyried holl weithgareddau disgwyliedig y busnes, a'u heffaith ar ei sefyllfa, gellir gwneud amcangyfrif o'r canlyniadau ym mhob adran ac o'r busnes yn ei gyfanrwydd.

Gan mai prif nod y prosiect yn ei gyfanrwydd oedd canolbwyntio ar ddulliau dysgu yn y sefyllfa uwchradd uniaith Gymraeg a dwyieithog, bydd mwyafrif y casgliadau yn ymwneud a lledaenu ymarfer dda yn y dosbarth.

Ei chryfder yw ei hamgyffred eithriadol o sefyllfa a chymeriad, o gyfraniad manion bywyd i'w gyfanrwydd, a'i hymdeimlo mawr â'r elfennaidd a'r sylfaenol, yn enwedig lle mae colli o ryw fath, neu fod heb rywbeth, yn profi ac yn bychanu dyn.

Ond rhan yn unig o gyfanrwydd ei phersonoliaeth yw'r dalent hon.

Os profiad neilltuol angerddol yr unigolyn yw defnydd llenyddiaeth, rhaid i'r bardd neu'r nofelydd groesawu'r profiad yn ei gyfanrwydd, a'i fynegi yr un modd.

Mae'r hyn sy'n wir am ei waith yn ei gyfanrwydd yn wir hefyd am ei waith yn y maes emynyddol, ac yma, gwelir y cydblethu'n digwydd amlycaf yn y pwyslais a roddodd Elfed ar gyfieithu a chyfaddasu emynau.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.