Sefyllfa Gyfansawdd.
O ran Taliadau Ail-ddarlledu a Defnydd Ychwanegol ystyrir y Rhaglen Gyfansawdd yn Rhaglen newydd.
Caiff y Cynhyrchydd wneud Rhaglen Gyfansawdd o Raglen neu Raglenni a ddarlledwyd eisoes a phe defnyddir pwt o berfformiad yr Artist mewn Rhaglen Gyfansawdd o'r fath bydd gan yr Artist hawl i daliad ychwanegol nid llai na'r isafswm tal (gweler Atodlen A) a negydiad rhwng y Cynhyrchydd a'r Artist fydd yn cymryd i ystyriaeth hyd y Rhaglen Gyfansawdd a nifer a hyd y pytiau.
Yn y broses o greu cyllidebau, felly, bydd yn angenrheidiol i gymhwyso'r gwahanol gyllidebau yng ngoleuni'r sefyllfa gyfansawdd fel y gwelir hi'n datblygu.