Pan oedd yn Rhydychen, canodd gywyddau i'w gyfeillion, ac yn ddiweddarach canodd ar yr un mesur i gyfarch dau ohonynt pan briodasant.
Edrychodd y ddau ar ei gilydd, yna dyma Yallon yn troi ychydig ar ei ben, fel y bydd rhywun wrth gyfarch cydnabod.
Cododd ei llaw i gyfarch yr haul.
Y mab sy'n adrodd y stori, a hynny wrth hen ffrind ysgol y mae'n ei gyfarch bob hyn a hyn.
Cyfrwng yw'r rhagymadroddion, yn y lle cyntaf, i gyfarch a rhyngu bodd noddwyr ac arweinwyr cymdeithas; ac yn yr ail le, a hyn sydd bwysicaf o ddigon, i roi cyfle i'r awduron eu hunain egluro eu bwriadau a'u cymhellion.
Caed Disco Gwisg Ffansi yno i gyfarch y Flwyddyn Newydd.
Wedi i fand y dathlu ddistewi, diflannodd Menem i mewn i'r Casa Rosada i gyfarch yr holl lysgenhadon tramor yn y wlad.
Cofio bore godi gyda Dafydd Ellis i gyfarch y wawrddydd gyntaf ar y Môr Canoldir, a ninnau'n hwylio reit i bwynt codiad haul.
Ar ôl cael ei gyfarch gan Archesgob Buenos Aires, cymerodd ran yng ngwasanaeth y Te Deum.
Dynion â dawn unigryw i gyfarch cenhedlaeth neilltuol o bobl mewn cymdeithas arbennig yw areithwyr mawr.
Buasai unrhyw ddyn felly wedi cael ei gyfarch fel Meseia gan y bobl, ond Fidel yn unig a feddai ar y rhinweddau angenrheidiol.
Ni fwriadai chwaith gael tân gwyllt i gyfarch ei chymdogion, pob un yn cael ei danio fel rhyw saliwt.
Maent yn dy gyfarch yn gyfeillgar ac yn diolch i ti am ladd y baedd.
Modd bynnag, daeth y gwr adref gyda'r nos o'r Hendre gyda sachaid o sale ar ei gefn; a deuai ei wraig i'w gyfarfod gan ei gyfarch: 'Cawsoch wrthbannau, Dafydd?'
'C'ofn i chi frifo.' Wedi teimlo'i draed oddi tano unwaith yn rhagor, a sefyll am foment i atgyfeirio, edrychodd i fyw llygaid yr hwsmon a'i gyfarch yn siriol ddigon.
yng nghanol ei drafferthion, clywodd y comisiynwyr yn ei gyfarch, cyn ymadael, tres bien, monsieur hughes tres bien.
Hynny a'r neges o gyfarch ar bapur tŷ bach 'wrth y bachan iaith Gymrâg 'cw yn y rhes gyferbyn ...
A pha fodd yr ydych chwi, frawd?' Anwybyddodd yr hwsmon y cyfle i ysgwyd llaw â'r person a'i gyfarch â geiriau yn unig.
Gwenodd Lowri'n sur ar y ddau, yna trodd ei chefn i gyfarch Cyrnol Price, Rhiwlas, a'i wraig.
Bellach mae pawb yn Rwsia yn awyddus iawn i gyfarch Mrs Thatcher wrth ei henw iawn, ac am ganmol yr hyn y mae hi, yn eu tyb hwy, wedi ei gyflawni.
Yn y Gymraeg llwyddodd y Prifardd Aled Gwyn i ddwyn y gynghanedd i mewn i'r mesur pan gomisiynwyd ef i sgrifennu Haiku i gyfarch aelodau Clwb Hiraeth, clwb o brif-weithredwyr Cwmniau Siapaneaidd dreuliodd amser yng Nghymru.