Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfeiliant

gyfeiliant

Tamaid o swper fyddai hi wedyn, a noson arall i gyfeiliant sŵn teipio tan y bore bach.

Dibynnai hwyl y canu a'r dawnsio i raddau helaeth ar gyfeiliant cadarn a bywiog Miss Olwen Roberts.

Er mai dim ond 2,000 o gopiau a argraffwyd yn wreiddiol gwerthwyd 15,000,000 erbyn hyn ac y mae'r Misa Criolla gyda'i rhythmau gwerinol, i gyfeiliant gitars, charangos a bombas yn waith y mae parch a phoblogrwydd mawr iddo yn yr Ariannin.

Tybiais mai pwrpas y pedwar gwersyll oedd cymell y plant i chwarae, canu a dawnsio i gyfeiliant 'Y Llyfr Gwyrdd' - ond roeddwn yn gwbl anghywir.

Gan fod cerddi'r beirdd proffesiynol yn cael eu datgan i gyfeiliant telyn neu grwth (mewn dull y collasom ni yn llwyr ei gyfrinach), fe ffurfiai'r beirdd ynghyd â'r telynorion a'r crythorion un dosbarth o wŷr wrth gerdd, a thebyg fod y cyfarwyddiaid - y gwŷr a adroddai'r hen chwedlau - hwythau'n perthyn i'r dosbarth hwn tra parhaent.

I gyfeiliant s n gwydr yn torri'n deilchion a sgrechfeydd y gwylwyr syrthiodd y lori ar ei hochr.

Yn dilyn y llwyddiant ysgubol y llynedd bydd yna sawl grwp arall yn cael canu a pherfformio fersiynnau arbennig o ganeuon i gyfeiliant cerddorfa.

Roedd Mynydd Mwyn yn rhoi iddo gartref a sicrwydd a'r wlad o gwmpas yn cynnig amrywiaeth di-ail o olygfeydd: tiroedd gwastad Môn, wybren lawn golau, mynyddoedd a môr, y cyfan yn newid yn gyson i gyfeiliant y ffryntiau tywydd a sgubai drosodd o'r Iwerydd.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!

Eisteddant yn y galeri yn gweu a smocio a sglaffio creision a cheir un o olygfeydd doniolaf y ffilm pan yw'r dair ohonynt yn joio mas draw wrth i'r grŵp chwarae'n egniol i gyfeiliant goleuo dychmygus Tref a'r ffilm gefndir o griw o ddawnswyr ifainc.

Os oeddwn wedi disgwyl rhywbeth hurt, fel miloedd o blant yn canu a dawnsio i gyfeiliant darlleniadau o'r Llyfr Gwyrdd sy'n cynnwys doethinebau Gadaffi, fe sylweddolais yn fuan mai ysgolion oedd y rhain i bregethu undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.