Fy hun, rydwi yn credu nad yw "mynd ar gyfeiliorn" yn beth drwg i gyd.
Gan amlaf byddem yn dehongli hynny fel arwydd gobeithiol, yn hytrach nag fel awgrym fod pethau'n mynd ar gyfeiliorn.
Gosodai'r academegwyr y gwirioneddau yr oeddynt yn dadlau amdanynt y tu allan i brofiad y galon, ym maes syniadau haniaethol, gan brofi i Hughes eu bod ar gyfeiliorn.
Pwy na fu, ac a fydd, yn mynd ar gyfeiliorn weithiau?
Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.
Yn wir, tybir ei fod yn gweithredu i adfer y corff i'w gyflwr normal pan fo rhyw ddylanwad yn tueddu i'w yrru ar gyfeiliorn.
A chymryd yr holl oediadau hyn gyda'i gilydd, gall deunaw mis neu hyd yn oed ddwy flynedd fynd heibio o'r amser y mae cwrs yr economi yn dechrau mynd ar gyfeiliorn hyd nes y bydd mesurau cyweiriol y llywodraeth yn dechrau brathu.
Hwy'n unig, meddai Barrow, oedd y wir eglwys; yr oedd pawb arall ar gyfeiliorn.