Ofnwn fod Rhagluniaeth wedi dweud yn eglur nad oeddwn i fynd i'r coleg, ac os felly ei bod yn dweud ychwaneg sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddoedd yn yr athrofa; a thybiwn y pryd hynny fod yn amhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn.