Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyferbyn

gyferbyn

"Wel, wel," meddwn i wrthyf fy hun, yn cymryd y gadair gyferbyn, "mae rhyw brofedigaeth lem wedi ei gyfarfod." Ofnais y gwaethaf.

Eisteddodd Therosina mewn cadair gyferbyn ag ef.

Roedd enw addas i'r lle hwn sef Disgwylfa ac ar ddiwrnod braf gellid edrych dros gefn Cadlan gyferbyn a gweld y bryniau gwyrdd yn codi drum ar ol trum, nes cyrraedd uchelfannau y Bannau gleision.

Gan ei bod yn ddiwrnod braf, mynd am dro efo'r myfyrwyr i ben y bryn gyferbyn a'r coleg i hedfan barcud.

Rhoddai'r dyn llyfr bach enw'r pregethwr gyferbyn â'r Sul hwnnw yn 'i lyfr 'i hun, ,a rhoddai'r pregethwr enw'r eglwys gyferbyn â'r Sul yn 'i lyfr yntau.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

Wedi cyrraedd at ddau ddeg, fe wyddai ei fod gyferbyn â drws ei gartre.

Y bae o ynys Capri hyd at y penrhyn gyferbyn â Naples yn fôr di-grych o arian tawdd.

Yna, daw yn ei hôl gan gadw ar yr un trywydd yn hollol ac ar ôl dod gyferbyn â'r wâl fe gyfyd ar ei thraed ôl a rhoi llam o'i hunfan nes disgyn yn y wâl.

Pan gyrhaeddodd y milwyr o boptu'r trên ymffurfiasant yn un rhes yn wynebu Bryn Road (lle'r oedd llawer o fenywod a phlant ymhlith y dyrfa), a dwy res gyferbyn â gerddi High Street.

Buom yn lwcus i gael sedd mewn compartment ac roedd dwy ferch olygus o'r Llynges gyferbyn â ni.

I lawr wrth yr afon gyferbyn â'r ogof mae Cam Lewsyn, dan bentan o graig, un o bobtu'r afon lle y gallai'r herwr lamu dros Irfon i ffoi rhag ei elynion.

Ni cheir cymaint o olau wrth blannu'r planhigion gyferbyn â'i gilydd.

Am genedlaethau yr ystafell yn y gwaelodion gyferbyn â'r "gegin" oedd cartref y plant lleiaf, a neb llai na Miss Jennie Dryhurst Roberts oedd yr athrawes.

Heb edrych i'm cyfeiriad, cerddodd y ddau at y ffenestr gyferbyn, ac edrych allan tua'r fynedfa.

Gyferbyn a'r Rex lleolir siop y Valley Videos ac yn oes mwy unigolyddol y peiriant fideo aeth y sinema gyhoeddus ar i lawr (er bod arwyddion o ddadeni diweddar yn ei hanes gyda dyfodiad y system multiplex o America lle ceir ffilmiau, bariau, clybiau a bwytai oll o fewn yr un adeilad).

Rhaid i mi adrodd yr hanes wrthych." Eisteddodd y wraig ar y gwely gyferbyn ac nid oedd hi'n siwr iawn beth i'w feddwl ohonof innau chwaith, erbyn hyn.

Ac at mynd a'ch croen ac eich blingo gyferbyn â to take everything you've got gellid ychwanegu y trawiadol - mynd a'r llefrith/llaeth o'ch te.

Fe godes yr ysgol oedd e wedi gico bant, a dringo lan nes bo fi gyferbyn â'r corff.

Rhyolite a welir gyntaf wrth gychwyn i fyny'r llwybr o'r maes parcio gyferbyn â Gorffwysfa.

Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.

Gyferbyn â mi, eisteddai gwraig oedrannus o'r enw Esther Pugh; roedd hi'n canu, mewn llais bregus a chrynedig:

Ac eto, ynghanol y sŵn, mae yntau'n cofio am y slasan oedd yn sefyll wrth y bar neu yn eistedd gyferbyn ag o yn y Clwb.

Jones, Ficer Tregaron, ac Edward Lewis a minnau i fynd ar ddirprwyaeth i Loughborough i weld Cyfarwyddwr Wills & Hepworth, (cyhoeddwyr cyfresi 'Ladybird' sydd mor amrywiol, â'u lluniau lliw, llawn tudalen gyferbyn â phob tudalen o brint.

gyferbyn â'r pinnau gosodwyd pwyntiau ", dan reolaeth bwrdd allweddau, gydag allwedd ar gyfer pob llythyren.

Arafais y car gyferbyn a'r lle, ac eistedd am funud i hel fy meddyliau at ei gilydd.

O'r dydd y'm ganed, y fam a'm dygodd i'r byd a fu'n brif elyn fy hapusrwydd, a hi sy'n eistedd gyferbyn â mi bob pryd bwyd.

Mae ei unig fab a'r unig Ferch o hyd yn byw yn yr hen gartref a phleser i mi yw mynd yn ôl ar dro yno a gweld ein hen fferm ninnau ar y llechwedd gyferbyn.

Awgrymwyd iddynt y dylid codi wyneb yr ardd (yng nghornel y maes parcio gyferbyn â'r groesfan tren) ac i'w ddefnyddio fel lle parcio cerbydau ar gyfer yr orsaf.

Aethom tua'r bryn gyferbyn â'r coleg a dod o hyd i lôn arall.

Hynny a'r neges o gyfarch ar bapur tŷ bach 'wrth y bachan iaith Gymrâg 'cw yn y rhes gyferbyn ...

Go brin fod hynny yn fy ngwneud yn gymwys i siarad gydag unrhyw awdurdod am actio ac actorion ond fe fum yn darllen gyda diddordeb mwy na'r cyffredin am yr hyn oedd gan Josh Cohen i'w ddweud wrth edrych ymlaen at actio gyferbyn a Jerry Hall noethlymun yn The Graduate.

Pan tua thair neu bedair milldir o Memphis, a'r ffordd yn rhedeg drwy ganol meysydd llydain a gwastad o bob tu i ni, gofynnai Mr Eleazar Jones i deithiwr a ddigwyddai eistedd ar ei gyfer, gan gyfeirio at faes ar lechwedd bychan gyferbyn â'r ffenestr, â rhyw fath o growcwellt hir yn tyfu arno, nad oedd Mr Jones yn hollol sicr beth ydoedd, - `Cnwd,' ebe fe, `o ba beth yw hwn ar y maes yna?' Ebe'r dyn, gan godi ei ysgywddau ac ysgwyd ei ben gydag ochenaid, `that is a war crop!' - Cnwd rhyfel ydyw hwnyna!

Fel plentyn yn mynnu codi crachen oddi ar friw, fe eisteddais yn union gyferbyn a ffenestr y gegin, yn syllu trwyddi ar y cenllif, ac yn rhyw ddychmygu beth allai ddigwydd i'm lluddias i i fynd.

Un o'r canolfannau pregethu pwysicaf trwy'r ganrif oedd Croes Sant Paul, gyferbyn ag eglwys gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

Gosodwch gannwyll fechan yn gadarn ar darn o glai fel na fydd yn disgyn drosodd, a goleuwch hi'n ofalus gan wneud yn siwr fod y fflam gyferbyn a'r twll.

Wel, doeddwn i ddim am eistedd yn y bws am ugain munud, ac felly es am beint i'r bar oedd â'i ddrws yn gyfleus iawn yn union gyferbyn â drws y bws.

Am ran o eiliad, safai'r dwblwr a'r senglen gyferbyn â'i gilydd, yn frwydr rhwng nerth corff a metel poeth.

Gan inni fod gyhyd yn nisgleirdeb yr haul ni allem weld yn glir iawn i'r cysgodion, ond wedi cynefino tipyn gallem weld merch yn plygu allan o un o ffenestri'r adeilad gyferbyn.

Ac ym Mangor, gadawodd y moddion i godi'r elusendai sydd gyferbyn â'r Eglwys Gadeiriol ac yn dal yn ddefnyddiol.