Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyffelyb

gyffelyb

Ac y mae gan waith yr Arglwydd ei drwm a'i ysgafn, ac os oes llwyfannau y mae cyfle i bobl orffwyso wrth y gwaith arnynt, wele maent hwy wedi eu meddiannu eisoes gan rai o gyffelyb fryd.

Câi Meyrick driniaeth gyffelyb.

Roedd hi wedi bwriadu cael gwledd gyffelyb y llynedd, ond cafodd Eurwyn ryw virus a bu'n rhaid gohirio tan eleni.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

'Rwy'n siŵr fod nifer o ddarllenwyr wedi clywed stori gyffelyb i hon, neu wedi ei darllen fel stori newyddion - byddwn yn falch iawn o'u clywed - danfonwch hwy ymlaen i Llafar Gwlad.

Roedd yna alw o fewn y byd addysg yng Nghymru am ddarpariaeth gyffelyb yn y Gymraeg.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Yr wyf wedi dweud mewn pennod flaenorol na welais gyffelyb Abel am adnabod calon dyn.

Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn bwysig wrth ystyried yr ateb i'r cwestiwn pa bryd y dechreuodd yr un canu ddylanwadu ar farddoniaeth Gymraeg - ond nid llai pwysig na hynny ydyw'r ateb i'r cwestiwn a allai effaith gyffelyb i effaith dylanwad y canu Trwbadwraidd fod wedi ei chynhyrchu gan ryw fudiad barddonol neu gymdeithasol arall.

Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.

Daeth y clas yn ganolfan dysg a hefyd yn fan cyfarfod i bobl o gyffelyb anian.

am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.

Chwarae teg i Siân a phawb sydd gyffelyb iddi þ yn wir, mawrygwn wragedd y gwþr di-waith.

Os felly bu o gyffelyb gymorth i'r Esgob Morgan ag a fu yn nes ymlaen i'r Esgob Richard Parry.

Mae deng myrddiwn o rinweddau Dwyfol yn ei enw pur; Yn ei wedd mae rhagor tegwch Nag a welodd môr a thir; Mo'i gyffelyb, Erioed ni welodd nef y nef.

Dyma destun yr ydym yn edrych yn ôl dros ugain mlynedd ato, a hynny gyda gorfoledd yn ein henaid, a hiraeth dwfn am weld eto yn fuan gyffelyb amser i hwnnw.