Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyffes

gyffes

Rwy'n ddigon hapus heno fy mod yn medru adrodd peth o'r hen Gyffes sanctaidd gyda mam - "I believe in God the Father, God the Son and God the Holy Ghost," ond wyddwn i ddim byd beth a ddwedwn i!

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Gwynn Jones y gadair genedlaethol ym Mangor â'i awdl enwog "Ymadawiad Arthur", ac yn yr un flwyddyn ymddangosodd erthygl gan John Morris-Jones yn Y Traethodydd, sef datganiad o gyffes ffydd lenyddol yr adfywiad.

Ac yn y cyd-destun hwn y dylid ceisio deall cyffes enwog Simon fab Jona yng Nghesarea Philipi: temtasiwn oedd y 'gyffes', temtio Iesu i ymhonni'n feseia rhyfelgar.

Yr Ymgnawdoliad a'r Iawn: Er iddi hi darddu o ddadleuon athronyddol digon dyrys, amcan ymarferol oedd i gyffes yr eglwys ynghylch cyflawn ddyndod a llwyr dduwdod ei Harglwydd.