Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfforddus

gyfforddus

Mae ymroddiad Eryl i gyfrwng y theatr yn amlwg, ac mae yntau'n ymddangos yn gyfforddus gyda'r cyfrwng hwnnw.

Roedd rhywbeth amdano a fyddai'n edrych yn gyfforddus yn bodio trwy lyfrau Shakespeare mewn llyfrgell, neu'n plygu yn ei gwman uwch Wordsworth.

Os yw hyn i'w gyflawni rhaid i'r Gadair hawlio parch yr holl aelodau a'r gymdeithas gyfan, bydd hynny yn ei dro yn caniat~ i'r person sydd ynddi eistedd yn gyfforddus ac yn eofn ynddi.

Beth bynnag eu henillion, p'un a oedd y rhieni'n gymharol gyfforddus neu'n dlawd, dodid y plant allan i weithio pan fyddent yn saith neu wyth mlwydd oed, yn ferched a bechgyn fel ei gilydd.

Rhywsut, dydi eu llwyddiant nhw ddim yn gwneud i mi deimlo'n gyfforddus iawn.

Cychwynnwyd y cyfan gyda buddugoliaeth gyfforddus ond bwysig oddi cartre o bedair gôl dros Wlad yr Iâ.

Arhosodd ddwy noson gyda ni, a Mam oherwydd enwogrwydd yr ymwelydd efallai (ac fe'i gwnaed yn farchog yn ddiweddarach) yn fwy gofalus nag arfer, os oedd hynny'n bosibl, fod pob peth yn iawn: y prydau wrth ei fodd, y gwely'n gyfforddus, yr ystafell a'r llieiniau a'r hyn ac arall yn lân fel newydd.

Diffoddodd y golau a setlopdd ei hun yn gyfforddus ar y clustogau.

T.eimlai'n gyfforddus wrth groesi'r ffin i A.oegr.

Nid oedd hi fawr mwy na sgerbwd; yn hollol analluog i weithio, neu hyd yn oed i fyw'n gyfforddus, ac ni ellid gwneud dim i'w helpu.

* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.

Mae'r cyfleusterau gan yr amaethwr erbyn hyn i gasglu ei borthiant o silwair, yn rhydd neu'n fyrnau mawr, heb brin orfod dod oddi ar glustog gyfforddus ei dractor.

Teimlai Nofa'n gyfforddus unwaith eto; pe bai'n unrhywun arall, mae'n ddigon posibl y byddai'n hapus.

Bydd gan Gadeiryddion gwahanol sgiliau ieithyddol gwahanol; bydd rhai yn gyfforddus wrth ddefnyddio'r ddwy iaith, rhai'n gyfforddus wrth ddefnyddio y naill ohonynt, ond yn medru defnyddio rhywfaint ar y llall, a bydd eraill yn gyfforddus mewn un iaith yn unig.

Mae Robert Graves yn dweud pa mor unig y gallwch chi fod os nad ydach chi'n deall yr iaith mewn gwlad dramor, ond, i griw newyddion teledu, mae'r unigrwydd yna'n gallu bod yn gyfforddus unig, achos dydych chi ddim yn uniaethu'ch hunan â'r sefyllfa.

Fel arall, maen nhw'n gwbl gyfforddus yn gyrru trwy we o graciau.

Mae Libyaid heddiw, fodd bynnag, yn gyfforddus eu byd ac yn derbyn gwasanaethau addysg a iechyd o'r safon uchaf yn rhad ac am ddim.

Er bod Cymru'n wlad ddiwydiannol ers canrif a hanner, ni theimlodd y beirdd erioed yn gyfforddus gyda'r bywyd hwnnw.

Yn gwneud i mi deimlo'n euog, ac afiach, ia - ond ddim yn gyfforddus!

Am fethu â chael cadair gyfforddus i chi.

Gwelodd y Capten ei gyfle a meddiannodd y soffa iddo'i hun yn wely tra gorfu i'r Major a'r Cyrnol gysgu ar welyau plyg, nid mor gyfforddus o'r hanner.