Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyffwrdd

gyffwrdd

Ni ddylai merch gyffwrdd ysgwydd dyn wrth iddo eistedd i lawr i chwarae, yn wir mae'n arwydd o anlwc os digwydd iddo gyfarfod â merch ar y ffordd i'r casino - anlwcus i bawb ond James Bond!

Fe'n rhybuddid yn aml nad oedd gennym hawl i gyffwrdd llaw â phlentyn, waeth pa mor ddrwg oeddynt.

A gostyngeiddrwydd mawr, atebais innau fy mod yn credu y defnyddiai'r Arglwydd fi yn gyfrwng i'w hiacha/ u hi A'm calon yn llosgi ynof, dodais fy nwylo ar ei phen a gweddi%ais ag angerdd am i'r Arglwydd gyffwrdd â hi y foment honno yn ei gwendid a'i hiacha/ u.

Roedd o yno'n wastad, mor agos fel y gallai gyffwrdd ag ef pe meiddiai.

Wrth blygu fe wnes i gyffwrdd yn ysgafn yn ei ysgwydd â'm llaw, er efallai yn anfwriadol.

Wrth gyferbynnu cefndir y nofelau hyn a chefndir llenyddiaeth Saesneg Iwerddon,mae Saunders yn nodi fod bywyd Iwerddon yn dal i fod yn amaethyddol, heb ei gyffwrdd gan ddiwylliant diwydiannol Lloegr.

Byddai'r person cyntaf i gyffwrdd y goron ar y fan bost yn gallu cael unrhyw ddymuniad a hoffai; gallai'r ail berson gael cusan ond câi'r trydydd person siom.

Er mwyn ennyn bendith y duw hwn roedd hi'n arfer gynt i 'gyffwrdd â phren' - i gusanu neu gofleidio'r goeden.

Daeth cenhadon eraill dros y môr, heb gyffwrdd â Gwent - Carannog a Phedrog o Ffrainc, yna ymlaen i sefydlu eglwysi yn Llangrannog a'r Ferwig felly hefyd Cybi o Gernyw i Langybi.

Mae llaw'r mwnci wedi colli'r gallu hwnnw gan ei bod bellach wedi hwyhau neu ymestyn a hynny drwy ei gyson ymhel â chrogi ar ganghennau coed, a bellach ni all blaen y fawd a blaen y bys bach gyffwrdd â'i gilydd fel yn hanes dyn.

Mae hi mor brydferth yna, heb ei gyffwrdd gan law dyn, fel 'tae, neu o leia mi ddylia fo fod heb ei gyffwrdd.'

Dim ond prin gyffwrdd â'r maes eang hwn ydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn ac mae angen i waith y Grwp Cynllunio Economaidd dyfu'n sylweddol os ydym i fod yn effeithiol.

wrth bwyso ar un o'r allweddau, yr oedd y pwynt cyferbynnol yn cael ei godi yn ddigon agos at yr olwyn fel bod ei bin yn ei gyffwrdd ar y cylchdro nesaf o'r olwyn, a thrwy hynny yn caniatau i drydan lifo drwy'r cysylltiad.

'Roedd Fishman fel petai'n awgrymu fod y ddwy iaith mewn sefyllfa ddwyieithog yn rhannu'n gyfleus i'r naill gategori neu'r llall, ac heb fawr o or-gyffwrdd rhyngddynt.

Dim ond daearyddiaeth oedd hynny; y tu ôl i'r wynebau gwelw ar y strydoedd, roedd hanes a diwylliant na fedrai dyn ond braidd- gyffwrdd ag ef.