Ceisiwyd gwneud John mor gyffyrddus ag y gellid ar lawr wrth y tân a phan gyffyrddai ei draed â rhywbeth gwaeddai dros y tŷ Yr oedd y plant mewn sobrwydd yn methu â deall beth oedd ar John heb ddim byd i'w ddweud wrthynt ond galw geiriau mawr a griddfan.