Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyflawn

gyflawn

Bydd sefydlu partneriaeth weithredol rhwng cyrff allweddol ym maes addysg yn angenrheidiol er mwyn ystyried cynllun addysg gyflawn i Gymru.

Casglodd Henry Hughes lawer iawn o drysorau yn ymwneud â Threfeca hefyd ac yr oedd ganddo, at hynny, lyfrgell gyfoethog iawn o lyfrau Robert Jones, Rhoslan, a set gyflawn o "Welch Piety%, yr adroddiad blynyddol am ysgolion Griffith Jonse, Llanddowror.

Bu gwasanaeth bore Sul y Pasg yn un gwahanol i'r arfer eleni oherwydd, yn y gwasanaeth hwnnw, cymerwyd rhan gan y bobl ifainc oedd yn cael eu derbyn yn gyflawn aelodau o'r eglwys.

Brwydrwn ymlaen nes cael Deddf Iaith Gyflawn fydd yn gwneud pob rhagfarnu'n erbyn y Gymraeg yn anghyfreithlon.

Anfonodd Duw ei Fab Iesu i'r byd yn gyflawn o'r bywyd perffaith i'n dysgu amdano ac i'n gwahodd bawb, gwerinoedd yr holl ddaear ,i mewn i'w Deyrnas ei Hun." Oblegid ei fod yn gweld "Gormes gyfalafol-imperialaidd yn caethiwo plant y Tad yng Nghymru ac yn eu difreinio%, meddai Gerallt Jones, "Y mae'n genedlaetholwr Cymraeg o Gristion".

A yw'r disgybl yn cael chwarae rhan gyflawn mewn penderfyniadau ynghylch darpariaeth ar gyfer ei anghenion ef neu hi?

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol fach gyflwyno'n effeithiol y Cwricwlwm 'Cenedlaethol'. Mae'n wir na ellid yn rhesymol ddisgwyl gan 2 athro yr amrywiaeth o arbenigedd i gyflwyno ar eu pennau eu hunain yr holl gwricwlwm, ac felly na allai ysgolion bach, yn eu ffurf draddodiadol, gyflwyno'r cwricwlwm yn gyflawn.

dau Bydd yn darparu'r holl ddogfennaeth angenrheidiol ar gyfer y broses leoli, a phan fydd yn gyflawn bydd yn darparu portffolio a all arwain at achrediad.

Rhaid hefyd sicrhau fod rhieni yn cael yn ddigymell wybodaeth gyflawn am fanteision addysg Gymraeg, ac am y ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir yn lleol, sirol a chenedlaethol.

O hynny fe ddaeth y "llun" yn gyflawn a chrewyd albym unigryw sy'n ddadlennol iawn.

Cefais set gyflawn o Woods Aethene Oxoniensis a'r gyfres orau o lyfrau ar Shakespeare mewn rhwymiad godidog.

"...rhan gyflawn o'n cyfundrefn addysg ac mae gan blant ag anghenion addysgol arbennig yr un hawl â phlant eraill i gael yr un ystod lawn o gyfleoedd yn y cwricwlwm â'u cyfoedion."

Mi hoffwn y sicrwydd y bydd ysgol Cai yn ysgol gymunedol gref â dyfodol diogel ac y bydd yn derbyn addysg gyflawn Gymraeg.

Camp y stori hon yw nad oes yna un digwyddiad ynddi sy'n teimlo'n gyflawn ynddo'i hun gan adael y darllenydd felly'n sychedu am fwy; yn rhwystredig, mae'n angenrheidiol darllen ymlaen.

Rhaid inni wthio ymlaen dros Drefn Addysg i Gymru, Deddf Eiddo, ac ie, Deddf Iaith Gyflawn Gref.

Daeth 2,000 ac wedyn 4,000 i ralïau mawr yng Nghaerdydd, a dechreuodd pob math o bobl dorri'r gyfraith wrth brotestio dros Ddeddf Iaith Gyflawn.

b) senedd gyflawn yn trafod pwnc gosod o ddiddordeb cyffredinol yn y bore, ac yn y sesiwn brynhawn, yn dilyn (bob yn ail) adroddiadau rhanbarthol neu weinyddol/cyllid.

Derbyn Aelodau Braint yn ystod Oedfa Gymun mis Mai oedd derbyn dau berson ifanc o'r Ysgol Sul i gyflawn aelodaeth o'r Eglwys a'u clywed yn rhoi eu haddewidion i fod yn fyddlon i Iesu Grist.

Gofynnwyd am awdl 'mewn cynghanedd gyflawn' yn hytrach nag ar y mesurau traddodiadol arferol.

Yr enghraifft gyflawn gyntaf o lenyddiaeth fodern mewn Cymraeg yw'r Bardd Cwsc.

Pan edrychir ar restr gyflawn o weithiau Elfed, un peth sy'n taro dyn ar unwaith yw pa mor gyfartal, yn ieithyddol, ydoedd swm ei gynnyrch.

Mae hyn eto'n gadael y darllenydd yn rhwystredig a'r unig ateb yw darllen ymlaen gan obeithio am stori fer hollol gyflawn sydd ddim am chwarae triciau bfwriadol â'r darllenydd.

'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.

Rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan gyflawn mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar gan ddod ar draws amrediad eang o lenyddiaeth a thestunau eraill, gan gynnwys deunydd gyda dimensiwn Cymreig.

Mae pwyslais ar y ferf gyflawn - 'Aeth' - ac y mae'r wybodaeth am ei deimladau wedi'i chyflwyno fel petai'n ddibynnol ar y weithred: 'Aeth .

Os nad oes gennym chwedl gyflawn, ysgrifenedig am Drystan, boed honno'n stori frodorol neu'n un wedi ei haddasu o ryw ffynhonnell Ffrangeg, pa dystiolaeth sydd ar ôl i bresenoldeb traddodiad byw am y cariadon yng Nghymru?

Yn y 'Rhagymadrodd' i Rheolau a Dybenion dywed Charles o berthynas i'r rheolau, "Barnasom fod yr ychydig rai canlynol ôll â sail iddynt yn y Gair Sanctaidd (yr hwn yw ein rheol gyflawn a sicr..." [Ceir y 'Rhagymadrodd' yn gyflawn yn William Hughes, Life and Letters of the Rev.

Prynais yno hefyd rai o lyfrau Mordaf Pierce a gwþr llengar eraill o sir Aberteifi; cefais yno gannoedd o lyfrau yn ymwneud â sir Feirionydd o gasgliad Edward Griffith y llyfrbryf, Dolgellau, ac yno, yn ddiweddar, deuthum ar draws set gyflawn o gopi%au o'r "Undebwr" papur Tori%aidd a gyhoeddid yn sir Aberteifi adeg helynt Iwerddon.

Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn yn weddol gyflawn erbyn hynd ond yn yr erthygl hon nid oes amser i ymdrin ond a rhai agweddau arnynt.

Heb ei Olwen ni all Culhwch fod yn gyflawn; os â hi'n drech nag ef, yna fe wyrdroir ei bersonoliaeth.

Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.

Trwy baratoi dysglaid fach o salad i'w fwyta gyda'r pysgod a'r 'sglodion gellir sicrhau pryd sy'n weddol gyflawn a chytbwys o ran maeth.

A yw staff meddygol a phara-meddygol a staff o asiantaethau allanol yn cael chwarae rhan gyflawn?

roedd y gweithgor felly'n hollol fodlon bod cynnwys y llyfryn cofnod yn gyflawn ac yn gywir ac yn adlewyrchiad o asesu dilys.

Ni allai CYD ddarparu rhaglen mor gyflawn o weithgareddau yn yr ardal hon heb weithgarwch y Swyddog Cyswllt.

Iddo ef, nid hanes pobl neu gymeriadau o'r enw Culhwch, Olwen, Arthur, Ysbaddaden, ac ati, a geir yn y chwedl, ond hanes arwrol un enaid dynol yn prifio trwy ei lasoed i oedoliaeth gyflawn, gytbwys.

Yn ystod y gwasanaeth derbyniwyd saith o bobl ieuanc yr Eglwys yn gyflawn aelodau.

Roedd eitem gyflawn am y brotest ar y prif newyddion ac Enlli Owens oedd canolbwynt pob sylw.

Ni byddai hanes y ddrama yng Nghymru yn y ganrif ddiwethaf yn gyflawn heb grybwyll ei gomedi ef.

Welais i erioed y fath ddarpariaeth gyflawn ac effeithiol ar gyfer newyddiadurwyr tramor.

Mae ariannu sgript gyflawn yn ddrud iawn.

Pan lwyddodd Bardeen, Brattain a Shockley i fwyhau foltedd trwy ddefnyddio grisial bychan o germaniwm, yn ffodus roedd y wybodaeth o hanfodion ffiseg solidau, ac yn arbennig ffiseg lled- ddargludyddion yn weddol gyflawn, yn dilyn damcaniaethau a seiliwyd bymtheg neu ugain mlynedd ynghynt.

Nid oedd yn barod i ymroi'n gyflawn o safbwynt dychymyg a dibynnu ar gysylltiadau a strwythurau cymdeithasol a seicolegol y bywyd hwn.