Bywyd y Cymry a ymfudodd i Benbedw ar dro'r ganrif a gyfleir yn I Hela Cnau Marion Eames - y fwyaf darllenadwy o'r holl nofelau hanes, a chan ei bod yn ymdrin a chyfnod y mae atgofion amdano wedi'u trosglwyddo'n deuluol i'r awdures, mae'n pontio rhwng y nofel hanes a'r nofel gyfoes.
(Gellid dadlau fod y cyfeiriad at Fair yn awgrymu'r atgyfodiad ac felly'r bywyd tragwyddol sydd i enaid Siôn, ond ni allai hwnnw fod yn fwy nag awgrym cynnil.) Fe ddichon fod y bardd yn credu y byddai'r plentyn diniwed yn mynd yn syth i'r nefoedd, ac nad oedd angen ei weddi yntau arno, ond yr un mor bwysig â diwinyddiaeth y bardd yw'r olwg ar farwolaeth a gyfleir yma.