Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfleoedd

gyfleoedd

Nid oedd digon o gyfleoedd i ieuenctid ar ôl iddynt orffen addysg Gymraeg: dylid sicrhau gwell cyfleoedd iddynt ddefnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith drwy wneud y Gymraeg yn fwy hanfodol fel cymhwyster ar gyfer swyddi.

Cenhadaeth Coleg Ceredigion yw gwneud cyfraniad tuag at ddatblygiad addysgol, cymdeithasol ac economaidd y gymuned trwy ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd ym myd addysg a hyfforddiant.

Dylai'r Cynulliad ddatblygu ffyrdd o hybu diwylliant yng Nghymru sy'n gynrychioladol o bob agwedd ar fywyd yng Nghymru gan gynyddu yn benodol gyfleoedd i'r boblogaeth ddi-Gymraeg gyfranogi yn yr iaith Gymraeg.

"...rhan gyflawn o'n cyfundrefn addysg ac mae gan blant ag anghenion addysgol arbennig yr un hawl â phlant eraill i gael yr un ystod lawn o gyfleoedd yn y cwricwlwm â'u cyfoedion."

Collir hefyd ffynhonnell bwysig o gyfleoedd hyfforddi i'r bobl ifanc.

Mae llawer o gyfleoedd newydd i weld Cymru yn cael ei chynrychioli ar fwy o lwyfannau, a hefyd mwy o ddulliau cyflwyno i gyrraedd talwyr y drwydded.

Rhaid i'r Cynulliad dalu sylw penodol i anghenion pobl ifanc am gyfleoedd gwaith teg a chartrefi addas o fewn eu cymunedau.

Galw sylweddol o du siaradwyr Cymraeg am ragor o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, yn enwedig wrth siopa neu wrth gysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a'r cyfleustodau sydd wedi eu preifateiddio.

Mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebu'r broses o ehangu darlledu masnachol.

mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebur broses o ehangu darlledu masnachol.

Yna, wrth i gyfleoedd amlhau daeth llif o actorion ifainc o golegau gyda nifer ohonyn nhw o'r farn fod addysg yn well cymhwyster na phrofiad.

Trefnir gweithgareddau arbennig ar gyfer y plant yn ystod yr haf yn ogystal, ac wrth gwrs cynhelir Pythefnos Addysg Oedolion ddiwedd mis Awst er mwyn darparu gwybodaeth am gyfleoedd addysg.

Ar yr un pryd, rhydd gyfleoedd ychwanegol i'r disgyblion a fydd yn hybu eu datblygiad pynciol, personol, addysgol a chymdeithasol.

94% o'r Cymry Cymraeg a 80% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid darparu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.

* edrychwch am gyfleoedd i drafod datblygiadau cyfredol ym myd addysg.