Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyflogau

gyflogau

Byddai model cydbwysedd cyffredinol o'r fath yn bur wahanol o ran natur i'r model cydbwysedd rhannol a geir yn Ffigur I, ond - a chymryd bod elfen o anystwythder yn perthyn i brisiau, ac yn arbennig felly i gyflogau a chyfraddau llog - fe fyddai casgliadau sylfaenol ein model dechreuol yn dal i sefyll: sef bod cydbwysedd yn bosibl gyda lefel uchel o ddiweithdra; ac y byddai'n rhaid i'r llywodraeth - er mwyn sicrhau lefel cyflogaeth uchel a sefydlog - reoli'r galw cyfanredol trwy defnyddio arfau cyllidol.

Mae'r diwydiant twristiaeth yn arbennig yn dioddef o gyflogau isel ac yn dioddef amrywiaethau tymhorol.

Bydd datgomisiynu Gorsaf Ynni Niwcliar Trawsfynydd, oedd yn cyflogi nifer sylweddol ac yn nodedig am gyflogau uwch na'r cyfartaledd, yn cael effaith andwyol ar y ddau ffigwr yma.

Ym 1984, aeth y glöwyr ar streic -- nid am gyflogau gwell, ond i gadw gwaith ar gyfer dyfodol eu cymunedau.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Bwriad y Gronfa Gredyd yw i gynorthwyo pobl ar gyflogau isel neu sy'n dibynnu ar y wladwriaeth am gynhaliaeth, i helpu i gilydd drwy gynilo symiau bychain o arian, ac wedyn benthyca arian ar lôg isel.

I hwyluso'r cysoni, gellir trefnu'r cyfrifon ariannol yn y fath fodd fel bod gwybodaeth ar gael sy'n ddefnyddiol wrth gymharu un set o lyfrau â'r llall; er enghraifft, gellir rhannu cyflogau yn y lejer yn gyflogau uniongyrchol a rhai anuniongyrchol, y cyfrif pryniannau yn nwyddau crai a nwyddau eraill, a'r treuliau yn rhai'r ffatri, y swyddfa, a'r adran farchnata.

Pan oedd personiaid, ar gyflogau isel, yn gofalu am blwyfi eang, mynyddig, yn aml am lawer o blwyfi, sut y gallent weithredu fel athrawon llwyddiannus yn ogystal?

Roedd - - yn awyddus i nodi fod ymyrraeth annerbyniol gan reolwyr ariannol y Sianel ar y pwnc o gyflogau.