Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyflogi

gyflogi

Dyna'r rheswm fod siopau Tripoli mor fach; maen nhw fel rhesi o focsys esgidiau am ei bod yn anghyfreithlon i gyflogi cynorthwywyr, ac o'r herwydd dyw'r perchnogion ddim yn medru ehangu.

Awdurdodwyd Cyfreithiwr y Cyngor i ymateb i apeliadau mewn unrhyw ffordd y gwêl yn briodol er gwarchod buddiannau'r Cyngor ac i gyflogi bargyfreithiwr ar gyfer apeliadau cynllunio lle bo angen.

Aeth brawd i fam Euros, er bod ei dad yn faijer pen-pwll, ac yn gyfrifol am gyflogi'r glowr, yn dramp am beth amser.

yn Y Faner yn honni nad oeddent hwy yn Sir Benfro wedi diswyddo'r un heddychwr, ond yn unig eu bod heb gyflogi rhai newydd.

Yn y flwyddyn o'n blaen gobeithiwn gyflogi ymchwilydd annibynnol i wneud astudiaeth fanwl o anghenion tai CiF.

Yn bennaf, felly, y mae angen i'r cyfarwyddwyr ar y naill ochr a'r Adran ar y llall gydnabod y gellid cyflawni'r tasgau hyn i gyd naill ai drwy gomisiynu gwaith neu drwy gyflogi person ac mai'r ganolfan a ddylai benderfynu pa un sy'n briodol ym mhob achos er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o'r cymorth a ddyranwyd ac o'r arbenigedd sydd ar gael iddynt.

Llwyddwyd hefyd i sicrhau cyllid i gyflogi gweithiwr datblygu llawn-amser i Gyngor Henoed Gwynedd.

Sen ar ddeallusrwydd a hunan-barch unrhyw newyddiadurwr profiadol fyddai cael ei gyflogi'n unig i ddarllen sgriptiau a baratoir gan rywun arall -: does dim rhyfedd felly fod yr ysgrifenwyr yn tueddu i edrych ar y rhai a gyflogir fel darllenwyr yn unig - â pheth dirmyg nawddogol Sylweddolir nad oes cyfle i ymarfer rhyw lawer o ddawn greadigol wrth ysgrifennu newyddion ­ credir fod angen llai fyth o ddychymyg i'w darllen.

Cefnogir comisynu gwaith ar gyfer Rhaglen A, nid i gyflogi swyddog (gweler cais ACEN am rhaglen B)

O fewn y swm hwnnw bydd rhyddid a hyblygrwydd gan y cynhyrchydd i gyflogi yn ôl ei ddewis ei hun.

Yn ôl Mark Hughes neithiwr, roedd o'n sicr y bydd digon yn awyddus i gyflogi'i dalent.