Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyflym

gyflym

Mae'r fflamau anferth yn cynhyrchu goleuni sy'n teithio trwy wagleoedd eang y gofod eithaf yn drybeilig o gyflym.

Fe fydd plant yn chwarae ym mhob man.' `Gwell i ni symud yn gyflym 'te,' meddai'r swyddog.

Y mae Swindon wedi tyfu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac y mae llawer o ystadau tai mawr wedi eu hadeiladu ar ymyl y dref.

Maent yn rhwbio eu hunain gymaint fel iddynt golli gwlan a dirywio yn eu cyflwr yn gyflym iawn.

Yr oedd y fflatiau yn rhad a gellid eu codi'n gyflym ac yr oedd ynddynt gyfleusterau modern megis ystafell ymolchi, nad oedd i'w cael yn yr hen dai.

Roedd hwn yn cadarnhau fod y byd wedi newid ac yn dal i newid yn gyflym.

Daeth yr ateb lawn mor gyflym.

Sylwais y tro diwethaf y bu+m yn Jamaica fod sioc aflerwch a budreddi a sbwriel y Trydydd Byd yn gwisgo i ffwrdd yn gyflym dro ben.

Un...!" Poerodd Morfudd ar ei bawd a'i redeg yn gyflym ar hyd bwâu ei haeliau, o arfer yn fwy na dim arall, gan mai ychydig o flew a dyfai yno bellach.

Prin yw'r manylion, gyda'r paent wedi ei roi'n gyflym a rhwydd, peth sy'n rhan o awgrymu darfodedigrwydd yr olygfa a'r brys i'w mynegi tra mae'n para.

Mae gwasanaethau arlein BBC Cymru wedi datblygun gyflym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nid yn unig drwy sefydlu safleoedd newyddion, ond hefyd drwy gyfrwng ystod eang o safleoedd sydd wedi esblygu yn gysylltiedig â rhaglenni.

Bron na ellid dweud fod y cyfan yn rhy gyflym ar adegau gan nad yw'r awdur yn oedi ar unrhyw gyfnod.

Yn sicr, ni ellid dweud fod y nofel hon yn llusgo gan fod tempo y digwydd yn gyflym.

Roedd hi'n amhosibl adnabod y cynhwysion gan mor gyflym y digwyddai popeth, a'r crochan fel pe bai yn codi lathen neu ddwy o'r llawr i'w derbyn.

Ond bu rhaid iddo gyfaddef wrtho'i hun, yn anewyllysgar ddigon, fod golwg eithaf difater ar bawb - hyd yn oed y plant - a oedd yn y cerbyd hir, a'i galon ef yn carlamu gan gyffro eiddgar: a pharhau i guro'n gyflym a wnai pan gyrhaeddodd Paddington.

Roedd yn fore heulog braf er bod yr awel yn ddigon main i beri i Rhys gerdded yn gyflym.

Jane Mary yn mynd yn gyflym - clip, clip, clip, clip ....

Fel y dynesai at y bargod gallem weld fod ganddi rywbeth yn ei llaw, a rhaid oedd mesur a phwyso'r sefyllfa'n bur gyflym.

Fe alwodd ar y Bwrdd hefyd i sefydlu: * Adain weithredu frys i ymateb yn gyflym i unrhyw gwynion.

Ond roedd y byd hwn yn chwalu cyn i mi gael fy ngeni, ac yn chwilfriwio'n gynyddol gyflym trwy gydol y tridegau, y pedwardegau a'r pumdegau.

Ceir dewis rhwng gweithio'n gyflym gynyddol ar y naill law, neu gymysgu'n araf ddryslyd flêr ar y llaw arall.

Yr ydoedd proffwydoliaeth, y diwrnod hwnnw, a'i bwyntil yn argraph ar galchiad pared parlyrau y palasdai acw, - `Mene, Mene, Tecel, Upharsin!' Mene, - `Duw a rifodd eich brenhiniaeth, ac a'i gorffennodd.' Tecel, - `chwi a bwyswyd yn y glorian, ac a'ch caed yn brin.' Peres, `Rhanwyd eich brenhinaeth!' Ac erbyn hyn, y mae y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni mor gyflym ag sydd bosibl.

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

Maen oll yn cynnwys cemegolion y mae ar blanhigion eu hangen, a gweithiant yn gyflym iawn.

Aeth y gwyliau yn rhy gyflym a daeth yn amser gweithio eto.

"Dydi cychwyn yn gyflym yn dda i ddim os ydi hynny'n golygu dy fod ti'n chwythu dy blwc." "Go dda, 'merch i," meddai'r hen ŵr.

Roedd pêl-droed Llanelli'n gyflym ac effeithiol tra roedd Merthyr yn edrych yn ofnadwy yn yr ail hanner.

Roedd mudiadau dyngarol wedi bod yn rhybuddio ers misoedd fod y sefyllfa yn y wlad fechan yn dirwyio'n gyflym ac y byddai'r boblogaeth o saith miliwn yn wynebu newyn difa%ol os na fyddai'r gymuned ryngwladol yn estyn cymorth yn fuan.

Y mae yr holl balasdai ardderchog y cyfeirwyd atynt, a channoedd heblaw hwy, heddiw yn syrthio yn gyflym i adfeiliad; mwy na hanner y rhai sydd o gwmpas Huntsville yn weigion; y gerddi blodau a'r perllanau yn llawn chwyn a'r mulod yn eu pori; naw o bob deg ohonynt `To be Sold or Let'.

Er y gwelwyd datblygiadau mewn sawl maes, mae angen i BBC Cymru bellach ailddynodi ei rôl ai sefyllfa mewn marchnad ddarlledu syn newid yn gyflym, wrth i ddatblygiadau technolegol gynnig cymysgedd o ddewis i'r gwylwyr ar gwrandawyr, ar deledu digidol ar hyn o bryd, ar radio sain digidol cyn bo hir, ac yn fuan drwy wasanaethau arlein.

Mewn tywodfaen "laterite% a choed y gweithiai'r penseiri, a ymryddhaodd yn gyflym oddi wrth ddulliau artisiaid yr India.

Mae hydrocsid sodiwm, neu soda costig i roi ei enw arall iddo, yn alcali cyfarwydd ond peryglus iawn.Gall ddinistrio croen dynol a dillad yn gyflym iawn.

Ym marn rhai aelodau o'r Bwrdd ei hun, y broblem oedd fod y newid wedi digwydd yn ddifrifol o gyflym - roedd hi'n ymddangos ar y dechrau fod hyd yn oed fudiadau fel Merched y Wawr yn cael eu gwrthod.

Mae'n bosibl y byddwch chi'n meddwl am bobl sy'n enwog ym myd chwaraeon, rhai sy'n gyrru ceir yn gyflym, pobl sy'n eithriadol o dal ...

`Fe fyddwn ni i gyd yn boddi os na wnawn ni rywbeth yn gyflym.' gwaeddodd Mr Parker.

Nid oes posib clywed LIWSI o gwbl pan yw'n siarad ac nid yw GARI, sy'n gorwedd ar ei wely a'i lygaid ynghau, yn sylweddoli ei bod hi yno.) (Gwneud siâp ceg, yn gyflym) Helo Gorila.

Oblegid creodd gatrodau o feirchfilwyr arfog, a wibiai'n gyflym ar draws gwlad gan beri dinistr i filwyr traed araf y Saeson.

Gan mai yn nhrymder nos, gan amlaf, yr â allan i bori bydd yn traflyncu ei bwyd yn fras er mwyn diwallu'r angen yn gyflym.

Rhaid cofio fod gwrthrychau'r sgrîn fach, fel y "seren wib," yn digwydd ac yn darfod yn rhy gyflym i adael argraff barhaol.

Mae e yn y gêm yn gyflym ac yn gorffen y ceisiau bant yn arbennig o dda.

Mae gwasanaethau arlein BBC Cymru wedi datblygu'n gyflym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nid yn unig drwy sefydlu safleoedd newyddion, ond hefyd drwy gyfrwng ystod eang o safleoedd sydd wedi esblygu yn gysylltiedig â rhaglenni.

Roedd yr oedi'n niwsans i griw o ohebwyr blinedig ond yn dyngedfennol i'r gwirfoddolwyr a oedd yn gorfod symud bwyd yn gyflym o'r maes awyr i'r canolfannau bwydo, os am ddal eu gafael arno.

Ni fedrent deithio'n gyflym gan fod y tir corsiog yn arafu eu camau ond cyn hir daethant at gysgod llannerch o dderi ifanc.

Ond gwelai'n gliriach nac erioed mai'r iaith Gymraeg yw'r trysor hynaf a gwerthfawrocaf sy gennym ar wahan i'r Ffydd Gristnogol, a gwelai ei bod mwyach yn gyflym ddarfod o'r tir.

Llwyddwyd i addasu'n gyflym i anghenion cyfnewidiol BBC Cymru a'n cwsmeriaid eraill yn ogystal â chyflawni perfformiad ariannol cryf iawn.

(Dychwelant yn gyflym iawn i'w safleoedd cychwynnol.)

Ar y diwedd holodd ef i Mr Henrickse sut y gwnaed y gwaith mor dda ac mor gyflym.

Ar ben hynny, dydyn nhw ddim yn bethau syn eich cael o un pen i'r Brifddinas i'r llall yn gyflym iawn.

Mae'r sensitifrwydd gwyryfol cychwynnol i ansawdd yr amgylchedd yn pylu'n gyflym iawn.

Tyfodd yn gyflym iawn yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyd dyffrynoedd yr afon ac ar y bryniau gerllaw.

Dysgodd Douglas Bader yn gyflym sut oedd gyrru awyren.

Cipiodd ei wn o'i wregys a dechrau saethu atyn nhw'n gyflym.

Mae Prif Weinidog Ethiopia Meles Zenawi wedi proffwydo y bydd y rhyfel ar ben o fewn ychydig o ddyddiau wedi i'w filwyr ennill tir yn gyflym yng nghyffiniau Zalambessa.

Efallai y byddai wedi bod yn well i'r sgrifenwyr rygbi eraill hefyd fod wedi oedi a phwyllo cyn rhuthro mor gyflym i ganmol ar sail tystiolaeth digon bregus.

Yn ei freuddwyd fe'i teimlodd ei hun yn esgyn yn gyflym, a'i fam wrth ei ochr, i fyny ac i fyny ac i fyny.

Roedd yn galonogol clywed bod ail gyfres o'r cynhyrchiad annibynnol hwn ar gyfer BBC Cymru wedi cael ei chomisiynu'n gyflym, ac fe'i hailddarlledwyd hefyd dros gyfnod y Nadolig.

Roedd yn gyflym ei feddwl,yn uchel ei gloch, a'i ddyfodiad i dy neu feudy, gyda'i chwiban neu'i gan, yn orcestra o swn; yng nghwt y moch ei wich o a fyddai uchaf, a lle na byddai roedd rhialtwch fel pe bai wedi colli'i denantiaeth.

Doedd dim eisiau perswadio'r criw i hel eu pac oddi yno, a dwy' ddim wedi gweld dyn camera yn symud mor gyflym yn fy myw!

Iddynt hwy, trodd 'problem y Neo- Natsi%aid' yn gyflym iawn yn 'broblem y rhai sy'n chwilio am loches'.

Cawn foduro'n gyflym ar draws Fflandrys cyn i'r gwlith godi.

Symudai'r arian yn gyflym o law i law, a dyna'r unig grūp gweddol dawel yn y lle i gyd.

Edrychodd yn gyflym yn ei ddrych, cyn llywio'r car i'r lôn araf a dilyn yr arwyddion tua'r gwasanaethau cyfagos.

Mae goleuni yn teithio mor gyflym o'r haul fel na fyddai modd i ni ei amseru ag atalwats.

Gadawodd y dynion y Land Rover a cherdded yn gyflym o'r golwg dan y coed.

A'r Mirages sydd yn gwibio mor gyflym.

Llwyddwyd i addasun gyflym i anghenion cyfnewidiol BBC Cymru an cwsmeriaid eraill yn ogystal â chyflawni perfformiad ariannol cryf iawn.

Heb fentr newydd gwelir fel y gall y Wyddeleg ddirywio'n gyflym i fod yn ddim amgen na symbol ffurfiol o hunaniaeth y Gwyddyl.

Ni allent glywed sŵn ond roedd yn amlwg fod hwn eto, fel y lleill, yn teithio yn weddol gyflym ar hyd y ffordd.

Ceisiodd gerdded heibio i Gary tua drws y toiledau, ond camodd hwnnw'n gyflym wysg ei ochr a chafodd Dilwyn ei fod rhyngddo a'r drws.

Nid yw "datblygu'n gyflym" yn golygu eich bod yn rhuthro allan â!ch darnau mawr i ganol y bwrdd chwaith.

Mae'n colli'r frwydr yn gyflym iawn, mae arna i ofn.'

Cerddodd hwnnw'n gyflym gyda chamau bychain siarp a sefyll o flaen Dei tra y sychai hwnnw'r chwys oedd ar gledrau ei ddwylo.

Dal ei dir a wnai'r cawr ond gyda'i wen yn crebachu'n gyflym.

Yn wir, nid aeth neb erioed mor gyflym trwy raddau Urdd y Llwynogod nag Ynot, a hynny pan oedd Cela Trams yn llywydd a Dik Siw yn olynydd iddo.

`Dydw i erioed wedi eu gweld nhw'n ymateb mor gyflym,' meddai'r dyn a ofalai amdanyn nhw.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

Beth bynnag, mi ddaeth yna gar yn gyflym o'r ochr arall i'r ffordd efo pobl yn hongian allan ohono a machine guns yn eu dwylo.

Yna roedd hi i fod i fynd draw i'r fferyllfa i nôl cyffuriau arbennig roedd ar Jonathan Burfoot eu hangen, gan ei fod yn gwaethygu'n gyflym, druan.

Hytrach yn elfennol oedd pensaerni%aeth tai annedd yr ysgwieriaid o hyd, er bod eithriadau i'r rheol hon hefyd a'u bod fel dosbarth yn dysgu'n gyflym.

Mae gwraig hyfforddwr rygbi Cymru wedi bod yn y llys ar ôl cael ei dal yn gyrru'n rhy gyflym.

Ras dros bum milltir fel arfer ac mae'n werth i'w gweld gan fod y camelod mor fawr ac yn medru symud mor gyflym.

Mewn gwirionedd roedd y Llys Apêl wedi penderfynu symud ymlaen yn gyflym.

Ond roedd Delwyn yn gyflym iawn i weld bod rhywbeth o'i le.

Mae'n amlwg bod y tyfiant tymhestlog yma wedi bod yn rhy gyflym i ni addasu'n syniadau i dderbyn y newydd.

Ni amgyffredid pa mor gyflym yr oedd tymheredd gwleidyddol Llanelli a'r cylch yn codi, nac i ba raddau yr oedd Llanelli'n ddolen wan yn y llinell gledr rhwng Llundain, Caerdydd, Abergwaun ac Iwerddon.

Byddai wedi bod wrth ei fodd yn aros yno i'w blasu, ond ni chafodd gyfle gan mor gyflym y rhuthrai'r bêl yn ei blaen.

Roedd yn galonogol clywed bod ail gyfres o'r cynhyrchiad annibynnol hwn ar gyfer BBC Cymru wedi cael ei chomisiynun gyflym, ac fei hailddarlledwyd hefyd dros gyfnod y Nadolig.

Oedd o'n gyrru'n rhy gyflym?

Fe groeswch y cyntedd i'r ystafelloedd yn gyflym a dirwystr.

Dringodd Huw i'w fync yn gyflym a thynnu'r dillad i fyny at ei gorn gwddw.

Roedd popeth mor llo/ eAg o gyflym fel y gallwn bron iawn ddweud nad own i yn hollol ymwybodol o'r hyn oedd yn mynd ymlaen, ond ynghanol y rhialtwch sgoAodd Mickey Thomas, Ian Walsh, Leighton James a David Giles, oedd yn.

Gwell oedd ganddo fynd i'w wely a chysgu yn dawel yn hytrach na phoeni am wneud mordaith gyflym!

Pa mor wynias bynnag yr oedd y senglau yn dyfod o'r ffwrnais, collent eu gwres yn gyflym wrth eu rowlo, a phan deflid hwy at y dwblwr i'w

Rholiwch y pric yn ol ac ymlaen rhwng cledrau eich dwylo mor gyflym ag y gallwch.

Gyrron ni heibio yn gyflym tua chanol y ddinas.

Y mae o i gyd wedi syrthio i ffwrdd wrth i'r ceir gael eu hysgwyd a'u sgytian wrth deithio'n gyflym dros y wynebau geirwon ac amrwd hyn.

Gall diod a haelioni a hapchwarae wacau cadw-mi-gei yn gyflym iawn.

O'r diwedd trodd ac aeth yn gyflym i lawr y llethr tuag at Bodwigiad.

Bydd rhaid i'r ail fuddsoddi fod yn: a) gyflym - i sicrhau gwirddewis; b) ddoeth/gofalus - gan na ellir rhagdybio beth fydd dewis-batrymau'r defnyddiwr yn y dyfodol; c) yn eofn, - er mwyn magu hyder.

'Dyw'r feistrolaeth honno ddim cystal yn y baban, y ffaeledig a'r henoed ag yw yn y canol oed, gan nad yw'r ymateb mor gyflym.