Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyfnewid

gyfnewid

Mae hyn yn ein helpu i gyfnewid straeon o wahanol rannau o Ewrop ac mae'n golygu bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed ar hyd a lled Ewrop.

Dywedodd hefyd fod y ddirprwyaeth yn cael mynd i Rwmania am fod yr Undeb Sofietaidd wedi caniata/ u hynny yn gyfnewid am ganiatâd gan Brydain i gomisiwn Sofietaidd ddod i'r Eidal.

Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.

Gwnaed hyn drwy gytuno ar gyfradd gyfnewid sefydlog i bob aelod ac, er mwyn sicrhau'r gyfradd rhag ansefydlogrwydd tymhorol, galluogwyd y Gronfa i gynnig benthycion i bob aelod yn ôl ei eisiau.

Byddai'n rhaid, mewn geiriau eraill, gyfnewid y model rhannol a geir yn Ffigur I, model sy'n ceisio dadansoddi'r farchnad nwyddau ar wahân i farchnadoedd eraill, am fodel cyffredinol, model a fyddai'n ceisio dadansoddi'r gydberthynas rhwng y gwahanol farchnadoedd hyn a'i gilydd.

Baulch fydd yn rhedeg yn y râs 400 medr tra bydd Iwan Thomas yn gorfod bodloni ar le yn y râs gyfnewid.

Bu'n rhaid i ni gyfnewid swm penodol o arian am bob diwrnod yr oeddem yn bwriadu aros yno , ond 'roedd y gyfradd newid yn afresymol o uchel (Dyma ran o ffordd y Comiwnyddion o gael arian o'r Gorllewin i mewn i'r wlad.) Wedi cyfnod go faith, cawsom fynd ar ein ffordd.

Cyhoeddwyd bod chwech o noethlymuniaid yn mynd i nofio ras gyfnewid o un pen i'r loch i'r llall.

Y fath gyfnewid!

Ond wrth gwrs dwg unrhyw gyfnewid fel hyn ei broblemau, ac yn fuan cafwyd cyfres ohonynt, a bu rhaid penderfynu ynglŷn a thri pheth hanfodol, tair sialens y bu rhaid eu ,hwynebu.

Rhaid cofio i Strasbourg ac ardal Alsace gyfnewid dwylo rhwng yr Almaen a Ffrainc sawl tro yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Cofiwch ofyn i'r sawl fydd yn gosod y bachyn tynnu osod Uned Gyfnewid Gwefr (Split Charge Relay) ar gyfer y batri.

A'r ras gyfnewid.

Cedwir symudiad y darn trwy gyfrwng saith berf arall sydd yn cynnwys dau gyfnewid o ran person, o Robin i'r forwyn, ac yna i'r feistres, a sawl cyfnewid o ran ansawdd: 'Cymrodd', 'Deallodd', 'ymddigiodd',

WALI: (Yn simsanu gan emosiwn braidd) Ras gyfnewid a nofio ar dy gefn?

WALI: A'r ras gyfnewid.

Hefyd, mae eisiau gwella'r broses o ledaenu canlyniadau'r arolygu hwn i'r sector anstatudol, mynd ati'n drefnus i adeiladu ar y cyswllt â'r sector anstatudol, a hynny'n arbennig drwy Fforwm Amgylchedd Gwynedd - fforwm lle gall y cyrff statudol ac anstatudol sydd â diddordeb yn yr amgylchedd gyfnewid syniadau a gwybodaeth.

Mewn gair, gyda'r gyfundrefn o gyfnewid amrywiol, nid oedd rhaid wrth yr un elfen o ddisgyblaeth fewnol ar wariant, buddsoddiant, prisiau a chyflogau.

Yn y cyfeiriad hwn y syniadau o waredigaeth trwy gyfnewid un am y llall a thrwy ollwng gwaed sy'n ganolog.

Credwn bod sicrhau mwy o ryddid i gyfnewid syniadau rhwng addysg a busnes yn datblygu amgenach dealltwriaeth rhwng y ddau faes ac yn foddion i adeiladu partneriaethau llwyddiannus.

Dau achwyniad arbennig yn erbyn y drefn yma oedd ei bod yn gwneud yr economi mewnol yn israddol i gyflwr y fantolen allanol a lefel y gyfradd ac, yn ail, fod unrhyw gyfundrefn sefydlog yn debyg o fagu rhyw grynofa afiach o hapfasnachu yn y farchnad gyfnewid dramor.

HEULWEN: Ras gyfnewid a nofio ar ei chefn.

Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr y cwmniau a chynrychiolwyr y canolfannau perfformio i gyfnewid gwybodaeth, â, lle bo'r angen, i addasu cynlluniau i gydfynd ac unrhyw anghenion arbennig.

Daeth y llyfrgell deithiol heibio i gyfnewid llyfrau Mam a minnau.